Mae system adnoddau dynol arloesol sydd wedi arbed amser ac arian i Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill gwobr genedlaethol nodedig gan HR Magazine.
Yn ddiweddar enillodd y system ‘All About Me/All About My Staff’ wobr am y Defnydd Mwyaf Arloesol o Dechnoleg Adnoddau Dynol yn seremoni Gwobrau Rhagoriaeth Adnoddau Dynol 2015 yn Llundain, gan guro cystadleuaeth gref gan gwmnïau mawr cenedlaethol a rhynglwadol fel Santander, Monster a Chymdeithas Adeiladu Nationwide.
Roedd y beirniaid wedi canmol cynnig buddugol Coleg Gŵyr Abertawe gan ddweud ei fod yn ‘arloesol iawn’. Roedd y ffaith bod cymaint wedi cael ei gyflawni’n fewnol ar gyllideb gymharol fach o £25,000 wedi creu cryn argraff ar y beirniaid.
“Dyma lle mae technoleg adnoddau dynol wir yn gweithio,” dywedodd un o’r beirniaid. “Mae’n ymwneud â dod o hyd i ateb i broblem sy’n gweithio ar gyfer cyflogeion a rheolwyr ac nad oes rhaid iddo fod yn gostus.”
Pan ffurfiwyd Coleg Gŵyr Abertawe yn 2010 ar ôl uno Coleg Abertawe a Choleg Gorseinon, daeth yn amlwg bod angen technoleg newydd i symleiddio prosesau adnoddau dynol ac i helpu i integreiddio’r ddau weithlu.
“O ganlyniad i’r uno, roedd rhaid i ni roi offeryn i reolwyr i’w helpu i gyflwyno prosesau adnoddau dynol newydd a syml ar draws gweithlu o fwy na 1000, wedi’u lleoli ar draws chwe champws," dywedodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Nicola Perkins. "Roedden ni’n cydnabod bod angen i reolwyr wneud y mwyaf o’u hamser i ddod i adnabod staff newydd ac i helpu i feithrin cysylltiadau newydd ac adeiladu timau cryf."
“Mewn ymateb i hyn, roedden ni’n awyddus i ddatblygu porth ar-lein hawdd ei ddefnyddio fyddai’n arbed yr amser mae rheolwyr yn ei dreulio ar brosesau cysylltiedig ag adnoddau dynol. Yn ogystal roedden ni am annog staff i gymryd meddiant dros eu data personol ac i sicrhau bod cofnodion cyflogaeth yn gywir ac yn gyfredol.”
Mae’r porth i staff ‘All About Me’ a’r porth i reolwyr ‘All About My Staff’ yn golygu bod prosesau adnoddau dynol allweddol fel nodi gwyliau blynyddol, cofnodi cymwysterau a hyfforddiant yn awtomataidd erbyn hyn. Cafodd datblygiadau pellach eu lansio’n ddiweddar i gefnogi gwerthusiadau perfformiad ar-lein. Mae’r system hefyd yn cynnwys system amser hyblyg a phwynt mynediad ar gyfer slipiau cyflog electronig.
Datblygwyd y prosiect drwy gydweithrediad y tîm adnoddau dynol a’r tîm mewnol yn uned Systemau Integredig y coleg.
Dywedodd y Pennaeth Mark Jones: “Rydyn ni’n hynod o falch ein bod wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol am y prosiect cydweithredol hwn, yn enwedig o ystyried yr adnoddau cyfyngedig oedd gyda ni i’w ddatblygu a’r gystadleuaeth gref oedd ar y rhestr fer yn y categori hwn.”
Llun: A Frame Photography