Mae myfyrwyr rhagorol wedi cael eu hanrhydeddu yn seremoni Gwobrau Blynyddol 2015 Coleg Gŵyr Abertawe.
Cafodd y gwobrau eu cyflwyno yn Stadiwm Liberty, gyda'r myfyrwyr yn cynrychioli pob agwedd ar fywyd coleg, o gelf, chwaraeon a pheirianneg i fenter, ieithoedd a lletygarwch.
Unwaith eto, cafodd y noson ei llywio gan droellwr Sain Abertawe Kevin Johns MBE, noson a welodd y myfyrwyr yn cael eu hanrhydeddu am eu llwyddiannau academaidd a phersonol.
Yn cadw cwmni iddo ar y llwyfan oedd y siaradwr gwadd Lowri Morgan sydd wedi ennill BAFTA a llu o wobrau eraill. Mae'n gyflwynydd teledu, yn anturiaethwr, ac yn rhedwr marathon Ultra o safon fyd-eang.
“Mae'r digwyddiad hwn yn ceisio dathlu llwyddiant y myfyrwyr yn ogystal â chydnabod pawb a chwaraeodd ran yn eu llwyddiant," meddai'r Pennaeth Mark Jones. "Yn bwysicach byth, efallai, mae’r gwobrau blynyddol yn defnyddio’r straeon hyn i ysbrydoli eraill sydd newydd gychwyn ar eu taith addysgol i ddangos iddynt beth y gellir ei gyflawni gyda’r ymrwymiad iawn, ymroddiad a’r cymorth sy'n cael ei gynnig gan y coleg."
Ymhlith yr enillwyr roedd: Anthony Matsena sydd, er iddo gael cynigion gan bedair prifysgol i astudio peirianneg, wedi penderfynu dilyn ei galon a derbyn lle yn Ysgol Dawns Gyfoes Llundain; Curtis Cana, sydd wedi gwirfoddoli fel gweithiwr ieuenctid am flynyddoedd lawer ac sydd a'i bryd ar sefydlu clwb ieuenctid a stiwdio recordio ar ôl gorffen yn y brifysgol; Laura John, sy'n gwirfoddoli i gefnogi plant ac oedolion agored i niwed yn y gymuned, a'u helpu i ddychwelyd i fyd addysg neu gyflogaeth; a Matthew Aubrey, sydd newydd lofnodi contract datblygu pedair blynedd gyda'r Gweilch.
Ar ôl llawer o bwyso a mesur, enillydd y wobr Myfyrwyr Ysbrydoledig y Flwyddyn yw Annie Fox, sy'n llwyddo i gyfuno gofynion ei chwrs Diploma Sylfaen Celf a Dylunio â swydd ran-amser a'i dyletswyddau fel gofalwr ifanc.
Ar gyfer ei Phrif Brosiect Terfynol, cynlluniodd Annie gasgliad o ddillad ymarferol a hardd i'r llygaid i bobl â sglerosis gwasgaredig. Roedd hi hefyd wedi gofyn i unrhyw arian a godir o werthu rhaglenni a gwaith celf yn yr Arddangosfa Haf gael ei roi i'r Gymdeithas MS. Erbyn hyn mae Annie wedi cael cynnig lle yn y coleg o fri Coleg Celf a Dylunio Ravensbourne.
Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle ymarferol i arddangos doniau'r myfyrwyr, gyda'r adloniant yn cael ei ddarparu gan fyfyrwyr y Celfyddydau Perfformio Lefel 3 a myfyrwyr Safon UG/U. Roedd staff a myfyrwyr o Ganolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway wedi arddangos eu sgiliau gwallt a cholur ar y noson, ac roedd myfyrwyr Theatr Dechnegol Lefel 3 wedi darparu'r set a'r sain. Cafodd yr addurniadau bwrdd cain eu creu gan y myfyriwr Gwasanaeth Bwyd Proffesiynol Lefel 3 Kewalin Bugg.
DIWEDD
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cydnabod haelioni noddwyr Gwobrau Blynyddol y Myfyrwyr 2015: First Cymru; Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; South Wales Evening Post; CBAC; Wella Professionals; Harcourt Colour Print; The Wave; Sain Abertawe; THTF Global; Mark Jones; Academi Cymru; Athrofa Gofal Brys a Gofal Heb ei Drefnu ym Mhrifysgol Abertawe; Hoowla; Blake Morgan; Vibe Video Production; South Wales Transport ac Oakleigh House.
Rhestr lawn o Fyfyrwyr y Flwyddyn 2015:
Y Celfyddydau Creadigol - Anthony Matsena
Y Celfyddydau Gweledol - Annie Fox
ABE/ESOL - Danuta Kolodziej
Y Dyniaethau ac Ieithoedd - Elliot Naylor
Mathemateg, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gymdeithasol - Catrin Lawrence
Technoleg - Chloe Scott
Iechyd a Gofal - Curtis Cana
Busnes - Sebastian Cieslak
Gwallt a Harddwch - Magda Grabowska
Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth - Michael Davies
Sgiliau Byw'n Annibynnol - Maciej Kowalski
Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus - Toni-Lee Lambert
Peirianneg - Mariusz Gawarecki
Hyfforddiant GCS - Amanda Coxon
Prentis - Dylan Charles
Menter - Rhys Cozens
Rhyngwladol - Po Shao (Andy) Cheng
Cymraeg - Katherine Rees
14-16 - Chloe Morgan
Addysg Oedolion - Laura John
Addysg Uwch / Mynediad - Samantha Alexis
Chwaraewr Rhagorol y Flwyddyn - Matthew Aubrey
Myfyriwr Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn - Annie Fox
Lluniau: Steve Phillips