Roedd yr entrepreneur meddalwedd lleol – a chyn fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe - Adam Curtis wedi dychwelyd i gampws Gorseinon yn ddiweddar i roi anerchiad ysbrydoledig i fyfyrwyr TG galwedigaethol.
Mae Adam yn ddatblygwr meddalwedd a greodd yr asiantaeth Clockwork Bear ac sydd bellach yn ei rheoli. Mae hefyd wedi sefydlu Hoowla, meddalwedd trawsgludo ar-lein i gyfreithwyr. Mae’n arbenigo mewn creu meddalwedd pwrpasol i fusnesau newydd a helpu cwmnïau i adeiladu systemau i reoli eu prosesau a’u dogfennau busnes ar-lein.
"Roedd hwn yn gyfle gwych i’n myfyrwyr gael cipolwg ar yrfa lwyddiannus ym maes TG a sut y gall agor cynifer o ddrysau," dywedodd Swyddog Menter y Coleg Lucy Turtle. “Roedd Adam wedi esbonio nad oes digon o staff yn y diwydiant TG ar hyn o bryd ac felly bydd galw mawr am sgiliau myfyrwyr boed y rheini’n sgiliau rhaglennu, gwerthu neu reoli prosiect - mae llwybr ar gyfer pob sgìl a gallu."
"Roedd e’n galonogol dros ben. Roedd e wedi dweud wrth y myfyrwyr am beidio â bod ag ofn cysylltu â chwmni i gael profiad gwaith. Dylen nhw barhau i ofyn ac yn y diwedd bydd un o’r perchnogion busnes yn dweud ie! Roedd y digwyddiad hwn yn un llwyddiannus a chadarnhaol iawn. Cafodd y darlithydd TG adborth gwych gan y myfyrwyr."
“Bydd rhedeg eich busnes eich hun yn llyncu llawer iawn o’ch amser chi ond os ydych chi’n hoffi’r her sy’n gysylltiedig â hynny, byddwch chi wedi ennill yn barod," dywedodd Adam. "Fuodd yna erioed amser gwell i ddechrau’ch busnes technoleg eich hunan, felly, datblygwch eich sgiliau tra’ch bod mewn addysg a chadwch eich llygaid ar agor am bethau i’w datrys!”
Trefnwyd y gweithdy hwn gan Swyddog Menter y coleg Lucy Turtle drwy raglen Modelau Rôl Syniadau Mawr Llywodraeth Cymru.