Mae myfyriwr Peirianneg Coleg Gŵyr Abertawe, Amadou Khan, wedi ennill gwobr yn ddiweddar yn nigwyddiad mawreddog Gwobrau Gweithgynhyrchu’r Dyfodol EEF yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Cipiodd Amadou y wobr Efydd yn y categori Llwybr at Brentisiaeth – Myfyriwr y Flwyddyn.
Roedd Amadou yn fyfyriwr Llwybr at Brentisiaeth yn ystod 2013/14. Roedd yn dangos brwdfrydedd mawr tuag at bob agwedd ar y rhaglen, gan gynnwys ei leoliad gwaith yn AAH Pharmaceuticals. Ar ôl cwblhau’r Llwybr at Brentisiaeth, symudodd ymlaen i ddilyn Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg.
"Mae Amadou yn un o’r myfyrwyr mwyaf talentog dw i erioed wedi’i ddysgu," dywedodd y darlithydd Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur Mark Row. "Mae e’n alluog iawn mewn lluniadu peirianegol a chynllunio gyda chymorth cyfrifiadur. Yn ogystal mae wedi sicrhau lle ym Mhrifysgol Canol Sir Gaerhirfryn i astudio Peirianneg gyda Chymorth Cyfrifiadur."
"Roedd hyn yn gyflawniad gwych i Amadou ac mae’n llawn haeddiannol" ychwanegodd yr arweinydd cwricwlwm Coral Planas. "Mae’r staff addysgu i gyd yn Nhycoch yn dymuno pob lwc i Amadou yn ei astudiaethau a’i yrfa yn y dyfodol."