Mae Hyfforddiant GCS, braich hyfforddi busnes Coleg Gŵyr Abertawe, wedi agor Canolfan Ynni newydd sbon yn Hill House, safle newydd y coleg.
Roedd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ymysg y gwesteion arbennig yn y lansiad swyddogol. Cafodd y Gweinidog ei thywys o gwmpas y cyfleusterau sydd wedi'u hadnewyddu'n llwyr a gweld drosti ei hun sut y bydd y ganolfan yn darparu'r cyrsiau hyfforddi diweddaraf i'r diwydiant trydanol, nwy a phlymwaith.
“Mae ein buddsoddiad yn y Ganolfan Ynni yn dangos yn glir ymrwymiad y coleg i'r amgylchedd, a dylai ein rhoi ni ar flaen y gad ym maes addysgu a hyfforddi ar gyfer technolegau adnewyddadwy," dywedodd Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones. "Ein nod yw sefydlu Canolfan Rhagoriaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy yn Hill House a bod yn brif ddarparwr hyfforddiant ar gyfer y sector hwn yn Ne Cymru."
Mae Hyfforddiant GCS eisoes wedi meithrin cysylltiadau â chyflogwyr blaenllaw fel Tata Steel, Smart Energy Wales, Dinas a Sir Abertawe, Green Tech, Amroc Heating, Westward Energy Services ac Advanced Heating Wales Ltd, ac roedd nifer ohonynt wedi'u cynrychioli yn y lansiad.
“Mae'r Ganolfan Ynni yn gyfleuster newydd cyffrous sy'n cynnig rhaglenni hyfforddi i'r sector nwy, trydanol, plymwaith ac ynni adnewyddadwy,” dywedodd y Dirprwy Weinidog. "Rwy'n gobeithio y bydd yn annog pobl ifanc i ystyried hyfforddi yn y sectorau hyn, a bydd yn darparu rôl hollbwysig i gyflogwyr lleol yr un pryd."
“Rwy'n awyddus i ddysgu mwy am Hyfforddiant GCS a sut y mae'n datblygu ei gysylltiadau â chyflogwyr lleol. Rwy' wedi ymrwymo i sicrhau cyfleoedd o safon uchel, ar sail galw ar gyfer ein pobl ifanc, a hoffwn i weld mwy o gyflogwyr yn mynd ati i ddatblygu a chefnogi rhaglenni.”
Un o'r llefarwyr yn y lansiad oedd Dee McCullough a ymunodd â'r coleg fel myfyrwraig yn ôl yn 2003, gan gwblhau ei chymhwyster NVQ plymwaith cyn sefyll yr asesiad nwy ACS.
Fel peirianwraig gymwysedig mewn pympiau gwres, boeleri solar thermol a biomas, erbyn hyn mae'n rhedeg cwmni ynni adnewyddadwy, Energywise-Wales Ltd. Mae Dee wedi parhau â'i datblygiad proffesiynol ei hun gyda Hyfforddiant GCS ac mae hi hefyd yn sicrhau bod ei gweithwyr yn mynychu'r coleg.
“Rydym ni'n gyffrous iawn am y Ganolfan Rhagoriaeth leol newydd hon,” dywedodd. "Fel cwmni sy'n gosod y dechnoleg adnewyddadwy ddiweddaraf un, fel pympiau gwres o'r aer a'r ddaear, boeleri ffotofoltaidd a biomas, mae angen peirianwyr arnom ni sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol ac sy'n gallu cynnig lefel uchel o wasanaeth i'n cleientiaid."
Mae buddsoddi yn y Ganolfan Ynni, a gafodd ei gynnig yn wreiddiol gan staff Hyfforddiant GCS fel rhan o brosiect Cronfa Arloesi'r coleg yn 2014, yn cynnwys gwerth £50,000 o offer wedi'u cyflenwi gan un o brif weithgynhyrchwyr y diwydiant, Viessmann.