Daeth y gantores / ysgrifennwr caneuon - a sêr rhaglen The Voice y BBC – Bronwen Lewis i ymweld â champws Tycoch Coleg Gŵyr Abertawe yn ddiweddar.
Roedd Bronwen wedi cwrdd â myfyrwyr Gwallt a Harddwch cyn perfformio rhai o ganeuon o'i halbwm newydd, Pureheart.
Cafwyd dangosiad arbennig o'r ffilm Pride hefyd, y mae Bronwen ei hun yn ymddangos ynddi. Yn seiliedig ar stori wir, mae Pride yn adrodd hanes grŵp o ymgyrchwyr lesbiaid a hoyw a gododd arian i helpu'r teuluoedd a gafodd eu heffeithio gan streic y glowyr yn 1984.
“Roedden ni'n gyffrous iawn i groesawu Bronwen i'r coleg ac roedd y myfyrwyr yn edrych ymlaen at gwrdd ag un o berfformwyr a sêr newydd byd ffilmiau Cymru," dywedodd y Rheolwr Maes Dysgu Bernie Wilkes. “Cawson ni sesiwn Holi ac Ateb gyda Bronwen lle cafodd y myfyrwyr gyfle i holi hi am ei phrofiadau yn y diwydiant ffilm a cherddoriaeth.
“Roedd dau nod i'r digwyddiad - roedden ni'n awyddus i godi ymwybyddiaeth o'n cymuned Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol, gan ddefnyddio'r ffilm Pride fel man cychwyn - ac roedden ni hefyd am barhau â'n dathliadau Mis Cŵl Cymru drwy gael Bronwen i ganu i ni yn Gymraeg ac yn Saesneg.”