Yn ddiweddar aeth myfyrwyr BTEC Lefel 3 Peirianneg Coleg Gŵyr Abertawe i sesiynau cyfweliadau ffug gyda chyflogwyr lleol mewn digwyddiad a drefnwyd gan Swyddog Menter y coleg Lucy Turtle a Gareth Price o Yrfa Cymru.
“Prif amcanion y digwyddiad hwn oedd paratoi myfyrwyr ar gyfer byd gwaith a rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar ddatblygu eu CVs a sgiliau cyfweld,” dywedodd Lucy.
Ymhlith y cyflogwyr oedd Tata Steel, Prifysgol Abertawe a’r Lluoedd Arfog. Roedd pob un wedi rhoi adborth adeiladol i’r myfyrwyr ar ôl eu cyfweliadau.
“Roedd safon CVs a thechnegau cyfweld y myfyrwyr yn rhagorol," dywedodd Robert Jenkins o Tata Steel. "Dw i bellach yn trefnu sesiwn ddilynol ar brentisiaethau o fewn Tata Steel oherwydd bydd llawer o’r myfyrwyr yn gwneud cais eleni.”
Roedd Steve Jones, Arweinydd Cwricwlwm Peirianneg, wrth ei fodd gyda’r canlyniad ar y diwrnod.
“Roedd y myfyrwyr yn fodlon iawn ar y digwyddiad ac roedden nhw’n meddwl bod y sesiynau cyfweld yn werthfawr," dywedodd. "Roedd adborth y cyfwelwyr yn ddefnyddiol iawn ac roedd yn awgrymu ffyrdd y gallen nhw wella’u technegau cyfweld."