Roedd myfyrwyr Technoleg Cerdd Coleg Gŵyr Abertawe wedi cymryd rhan mewn gweithdy arbennig lle cawsant gyfle i gymdeithasu â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Cynhaliwyd y digwyddiad ‘Beth sydd Nesaf yn y Diwydiant Cerddoriaeth?’ gan Grŵp NPTC (campws Castell-nedd).
“Roedd hwn yn gyfle gwych i’r myfyrwyr rwydweithio gyda cherddorion, cynhyrchwyr ac ysgrifenwyr,” dywedodd Swyddog Menter y Coleg Lucy Turtle, oedd wedi mynd gyda’r myfyrwyr ynghyd â’r darlithydd Simon Prothero. “Dydych chi ddim yn cael cyfle i gwrdd â phobl fel hyn bob dydd – pobl o’r diwydiant sydd wedi teithio’r byd ac wedi chwarae gyda’r artistiaid mwyaf penigamp. Roedd ein myfyrwyr yn teimlo’n hollol ysbrydoledig ar ôl y digwyddiad.”
Ymhlith y siaradwyr oedd y cyflwynydd radio a’r ysgrifennwr Adam Walton - roedd ei sioe ‘Revolution’ ar BBC Radio Wales wedi rhoi sylw cynnar i fandiau fel Gorky's Zygotic Mynci a Catatonia.
Hefyd yn bresennol oedd Dan Thomas - cerddor, cynhyrchydd a pheiriannydd sain sydd wedi darparu ailgymysgiadau i Ellie Goulding, Dan Croll a Kelis - ac Aziz Ibrahim, sy’n adnabyddus am ei waith fel gitarydd gyda Simply Red, The Stone Roses ac Ian Brown.