Safon Uwch Astudiaethau Crefyddol (Athroniaeth a Moeseg)
Trosolwg
Mae crefydd yn rhannu pobl ac mae’n dod â phobl at ei gilydd. Mae crefydd bob amser yn y newyddion ond a yw’r wybodaeth yn ddibynadwy? Byddwch yn dysgu technegau i ddadansoddi a gwerthuso gwybodaeth i wneud penderfyniadau am y materion a’r problemau sy’n wynebu credinwyr crefyddol ac anghredinwyr.
Byddwch yn astudio un o grefyddau’r byd yn fanwl (33% o’r cwrs): Bwdhaeth, gan edrych ar arferion cyffredin fel myfyrio a dysgeidiaethau fel karma, yn ogystal â sut mae Bwdhyddion yn byw yn y DU a ledled y byd.
Yn y rhan athroniaeth a moeseg o’r cwrs (66% o’r cwrs), cewch gyfle i astudio cwestiynau eithaf fel ‘beth yw pwrpas bywyd?’ a ‘pam mae drygioni yn bodoli?’ Bydd y cwrs yn gwella’ch sgiliau meddwl athronyddol a’ch gallu i feddwl mewn ffordd wreiddiol. Byddwch yn ymchwilio i faterion moesegol a chrefyddol cyfredol, mawr megis moeseg feddygol a mewnfudo.
Gwybodaeth allweddol
- O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU
- Gradd B mewn TGAU Saesneg iaith a Llenyddiaeth yn ddymunol.
Addysgir y cwrs trwy amrywiaeth o ddulliau dan arweiniad athrawon a myfyrwyr. Mae digon o gyfleoedd ar gyfer trafodaeth dosbarth a dadleuon. Asesir y cwrs trwy arholiadau ar ddiwedd y flwyddyn a gosodir traethodau ymarfer ar ddiwedd pob testun naill ai fel gwaith cartref neu fel asesiadau wedi’u hamseru yn y dosbarth. Mae traethodau ymarfer yn helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy ac maen nhw’n ymarfer ardderchog ar gyfer arholiadau.
Arholiad ysgrifenedig Uned 1 (UG) – 75 munud
Arholiad ysgrifenedig Uned 2 (UG) – 115 munud
Arholiadau ysgrifenedig Unedau 3, 4 a 5 (U2) – 90 munud yr un
Astudiaethau pellach ar lefel prifysgol mewn amrywiaeth o bynciau gan gynnwys Cymdeithaseg, Seicoleg, Anthropoleg, Saesneg Llenyddiaeth neu Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg. Gyrfaoedd yn y gyfraith, addysg, busnes, gwaith cymdeithasol, meddygaeth, gweinyddiaeth a’r cyfryngau.
Cysylltiadau ardderchog â Bwdhyddion lleol a chyfleoedd i ymweld â Chanolfannau Bwdhaidd.