Skip to main content

Safon Uwch Ffotograffiaeth

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Dewch i gychwyn taith greadigol trwy fyd cyfareddol ffotograffiaeth ar ein cwrs Safon Uwch Ffotograffiaeth. Nod y cwrs yw datblygu eich sgiliau technegol a’ch gweledigaeth gelfyddydol wrth feithrin eich diddordeb angerddol mewn gwneud delweddau.   
 
Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn: 

  • Ymddiddori mewn aseiniadau ymarferol wythnosol sy’n archwilio technegau ffotograffig amrywiol, yn ddigidol ac yn draddodiadol 
  • Profiad o weithio gyda ffilm a gwneud eich printiau ystafell dywyll du a gwyn eich hun 
  • Cael gweithdai penodol i ddysgu sut i ddefnyddio camera DSLR yn effeithiol  
  • Arbofi â chyfansoddiad a goleuadau stiwdio o safon diwydiant 
  • Cael gwersi pwrpasol mewn meddalwedd dysgu golygu digidol - Adobe Photoshop 
  • Archwilio gwaith ffotograffwyr enwog.

Canlyniadau’r Cwrs 

  • Bod yn hyderus wrth ddefnyddio camera DSLR â llaw 
  • Profiad o ffotograffiaeth digidol a thraddodiadol 
  • Datblygu hyfedredd mewn meddalwedd golygu delweddau 
  • Mireinio eich arddull eich hun a datblygu eich persbectif unigryw 
  • Ar ddiwedd y cwrs bydd gennych brosiect portffolio, fydd yn dangos eich lluniau gorau a’ch twf fel artist gweledol.

 

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg Iaith
  • Brwdfrydedd cryf dros ffotograffiaeth ac angerdd go iawn am ddal y byd trwy lens camera 
  • Argymhellir TGAU Ffotograffiaeth neu gymhwyster TGAU yn un o’r Celfyddydau Creadigol, ond nid yw hyn yn hanfodol 
  • Nid oes angen profiad o ffotograffiaeth, ond byddai gwybodaeth sylfaenol o weithredu camera a meddalwedd golygu delweddau yn fanteisiol.

Cewch dair sesiwn yr wythnos, gan gynnwys gwers ymarferol ddwbl, a dwy wers sengl.  

Yn ogystal, bydd disgwyl i weithio’n annibynnol y tu allan i’r Coleg i ddatblygu’r hyn rydych wedi’i ddysgu yn ymarferol yn wythnosol.  

Asesir y cwrs trwy feirniadaethau drwy gydol y cwrs, adolygiadau bob hanner tymor, asesiad mewnol ac asesiad allanol trwy’r corff arholi. 

Mae’r meini prawf graddio fel y gosodwyd gan fwrdd arholi CBAC yn cynnwys y pedwar amcan asesu: 

  • AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunol 
  • AA2 Gwneud Creadigol 
  • AA3 Cofnodi Myfyriol 
  • AA4 Cyflwyniad Personol.

Blwyddyn 1 (100% gwaith cwrs heb unrhyw arholiadau) 

  • Safon UG Uned 1 Yr Ymholiad Creadigol Personol 
  • 40% o’r cymhwyster.

Blwyddyn 2 (100% gwaith cwrs heb unrhyw arholiadau) 

  • Safon Uwch Uned 2 – Ymchwiliad Personol 
  • 36% o’r cymhwyster 
  • Safon Uwch Uned 3 – Aseiniad a Osodir yn Allanol 
  • 24% o’r cymhwyster (mae’n cynnwys cyfnod ffocws parhaus 15 awr).

Ar ôl cwblhau’r cwrs Safon Uwch Ffotograffiaeth, bydd gennych y sgiliau i ddilyn addysg uwch neu yrfaoedd yn y diwydiant creadigol.  

Gallech ddewis astudio ffotograffiaeth, y celfyddydau cain, neu ddylunio ar lefel uwch, fel cwrs sylfaen neu raglen gradd.  

Diploma Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. 

Gallai llwybrau gyrfa gynnwys ffotograffiaeth broffesiynol, ffotonewyddiaduraeth, dylunio graffig, hysbysebu, y cyfryngau a marchnata digidol.  

Mae’r sgiliau a enillir yn ystod y cwrs hwn, fel llythrennedd gweledol, meddwl yn feirniadol, datrys problemau, a golygu digidol, yn drosglwyddadwy ac yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr yn y byd heddiw lle mae delweddau i’w gweld ym mhob man.  
 

Byddai mynediad i gamera digidol personol DSLR gyda swyddogaethau llaw yn fuddiol. 

Mae ffi stiwdio £30 ar gyfer pob blwyddyn y cwrs. 

Mae myfyrwyr yr ail flwyddyn yn dathlu eu gwaith mewn arddangosfa diwedd blwyddyn.  

Mae myfyrwyr Ffotograffiaeth CGA wedi ennill mewn nifer o gategorïau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 
 

Explore in VR