Skip to main content

Safon Uwch Astudiaethau Cyfryngau

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Yn y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu cysyniadau sylfaenol astudiaethau cyfryngau, gan gynnwys cynrychioliad, cynulleidfa, diwydiant ac iaith y cyfryngau. Trwy brosiectau unigol bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o ddefnyddio meddalwedd fel Photoshop i greu posteri ffilm a brandiau cylchgronau newydd. 

Amcanion y Cwrs: 

  • Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau allweddol astudiaethau cyfryngau 
  • Cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o astudiaethau cyfryngau i ddadansoddi cynhyrchion y cyfryngau 
  • Datblygu cynhyrchion cyfryngau ar gyfer cynulleidfa arfaethedig sy’n adlewyrchu cysyniadau allweddol astudiaethau cyfryngau.

Canlyniadau’r Cwrs: 

  • Deall cysyniadau allweddol astudiaethau cyfryngau  
  • Cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau allweddol 
  • Ymchwilio a datblygu eich cynhyrchion cyfryngau eich hun gan gymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau allweddol astudiaethau cyfryngau.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys gradd B mewn Saesneg laith.

Asesu astudiaethau cyfryngau UG:

  • Uned 1: arholiad ysgrifenedig (60%) – Ymchwilio i’r cyfryngau  
  • Uned 2: gwaith cwrs (40%) – Creu cynhyrchiad cyfryngau  

Asesu astudiaethau cyfryngau U2:

  • Uned 3:  arholiad ysgrifenedig (60%) – Y cyfryngau yn yr oes fyd-eang 
  • Uned 4:  gwaith cwrs (40%) – Creu cynhyrchiad trawsgyfryngau  

Meini Prawf Graddio: 

  • Arholiadau: 60% 
  • Gwaith Cwrs: 40% 

Wrth astudio Safon Uwch Astudiaethau Cyfryngau byddwch yn dysgu sgiliau fel cyfathrebu, meddwl yn feirniadol ac ymchwil. Byddwch hefyd yn datblygu eich galluoedd creadigol ac yn cael profiad o ddefnyddio meddalwedd digidol fel Photoshop. Gall y sgiliau hyn eich helpu i baratoi ar gyfer llawer o swyddi mewn diwydiannau amrywiol, megis hysbysebu, marchnata, newyddiaduraeth a busnes.