Y Celfyddydau Perfformio Lefel 2 - Diploma
Trosolwg
Mae’r cwrs blwyddyn UAL (Prifysgol y Celfyddydau Llundain) y Celfyddydau Perfformio Lefel 2 hwn yn gyfwerth â phedwar cwrs TGAU. Fe’i bwriedir i ddarpar berfformwyr sydd â diddordeb angerddol yn y celfyddydau creadigol. Cewch eich cyflwyno i amrywiaeth o feysydd astudio ar draws disgyblaethau actio, dawns, canu a chynhyrchu theatr sy’n cynnwys ystod o sgiliau fel:
- Techneg actio
- Perfformiad wedi’i sgriptio
- Perfformiad theatr gerdd
- Byrfyfyrio
- Canu ensemble
- Symudiad
- Bale
- Cynhyrchu theatr.
Yn ystod y cwrs, cewch eich asesu trwy eich prosiectau perfformio wedi’u hategu gan aseiniad ysgrifenedig. Nod y cwrs yw darparu sail gadarn yn y celfyddydau perfformio a rhoi’r wybodaeth a’r technegau angenrheidiol i fyfyrwyr fel y gallant ddilyn astudiaethau pellach. Erbyn diwedd y cwrs, bydd myfyrwyr wedi magu hyder, a gwella eu creadigrwydd, eu gwaith tîm, a’u sgiliau cyfathrebu, ac ennill dealltwriaeth o sector y celfyddydau perfformio.
Gwybodaeth allweddol
- Un radd D neu uwch ar lefel TGAU, neu broffil Teilyngdod Diploma Lefel 1
- Mae diddordeb a pharodrwydd i gymryd rhan yn yr holl weithgareddau perfformio yn hanfodol
- Byddai profiad perfformio mewn dawns, actio a chanu yn fanteisiol.
Addysgir cwrs y Celfyddydau Perfformio Lefel 2 ym Mloc y Celfyddydau, Campws Gorseinon.
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu rhyngweithiol a diddorol.
Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai ymarferol, ymarferion, a pherfformiadau, gan roi modd iddynt ddatblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth o amgylchedd y celfyddydau perfformio. Asesir y cwrs trwy gyfuniad o asesiadau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig.
Mae meini prawf asesu yn canolbwyntio ar allu myfyrwyr i ddangos eu dealltwriaeth o dechnegau’r celfyddydau perfformio, eu sgiliau perfformio, a’u gallu i fyfyrio a gwerthuso eu dilyniant. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael adborth cynhwysfawr ac yn eu galluogi i wella eu galluoedd yn barhaus.
Bydd cwblhau cwrs y Celfyddydau Perfformio Lefel 2 yn agor amrywiaeth o gyfleoedd dilyniant i fyfyrwyr. Gallen nhw ddewis parhau â’u hastudiaethau ar Lefel 3, gan ddilyn Diploma Estynedig Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio neu gymhwyster tebyg. Bydd y sgiliau a enillir yn ystod y cwrs yn werthfawr mewn diwydiannau creadigol eraill hefyd, fel rheoli digwyddiadau, marchnata, neu weinyddu’r celfyddydau.
Fel rhan o’r cwrs byddwch yn mynd ar deithiau i leoliadau allanol, gweld perfformiadau ar-lein a chymryd rhan lawn mewn gweithdai gan ymarferwyr gwadd. Mae’r cwrs Lefel 2 yn cynnwys ffi £150.