Skip to main content

Sgiliau ar gyfer Bywyd ESOL (Lefel 1)

Amser-llawn, Rhan-amser
Lefel 1
Llwyn y Bryn
35 wythnos
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Bwriad y cwrs canolradd i uwch ganolradd hwn yw ychwanegu at wybodaeth weithredol dda y myfyrwyr o’r iaith Saesneg mewn sefyllfaoedd defnyddiol pob dydd.

Caiff amrywiaeth o sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu ei haddysgu.

Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau ESOL+ ar Lefel 1 i helpu dysgwyr i symud ymlaen i gwrs lefel uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Gall dysgwyr ddewis un o bum pwnc ESOL+, y byddan nhw’n ei astudio yn ychwanegol at eu cwrs ESOL. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig ESOL+ mewn Celf, Busnes, Peirianneg, Trin Gwallt ac Iechyd a Gofal.

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ar fyfyrwyr. Dylai ymgeiswyr fod wedi cyrraedd lefel ganolradd.

Rhan-amser neu amser llawn.

Gall myfyrwyr symud ymlaen i gyrsiau amrywiol ar draws y Coleg, arholiadau Caergrawnt, cyflogaeth.

Mae ein cyrsiau newydd yn dechrau ym mis Medi. Byddwn yn asesu’r holl fyfyrwyr newydd cyn eu rhoi ar y cwrs iawn. E-bostiwch ni yn esol@gcs.ac.uk neu ffoniwch ni ar 01792 284021 i ymuno â’n cyrsiau.