Busnes a Gweinyddu Lefel 2 - Tystysgrif
Trosolwg
Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn cynnwys dau gymhwyster - BTEC Tystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes a BTEC Tystysgrif Lefel 2 mewn Busnes.
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar sut mae byd busnes yn datblygu, yn gweithredu ac yn ymateb i newid. Mae’n rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth ofynnol i fyfyrwyr ar gyfer byd gwaith a hanfodion ar gyfer dechrau eu busnes eu hunain.
Mae’r cymhwyster hwn yn gyfwerth ag astudio pum pwnc TGAU.
Amcanion y Cwrs:
- Deall gwasanaethau gweinyddu
- Cymryd rhan mewn profiad gwaith gweinyddu busnes
- Defnyddio technoleg busnes i brosesu a chyfleu gwybodaeth
- Cynllunio, trefnu a chefnogi digwyddiadau busnes
- Datblygu cynllun busnes sy’n ariannol ddichonadwy ar gyfer gwefan ac ymgyrch hyrwyddo
- Adnabod strategaethau btrandio a ddefnyddir mewn busnes.
Canlyniadau’r Cwrs:
- Egluro pa mor bwysig yw tasgau cymorth gweinyddol, gan gynnwys sut i baratoi a dosbarthu dogfennau busnes a sut i reoli systemau dyddiadur a systemau ariannu
- Ennill y rhinweddau i weithio mewn sector gweinyddu busnes
- Adnabod a defnyddio rhaglenni meddalwedd busnes
- Cynllunio, costio a chymryd rhan mewn digwyddiad busnes
- Cyfrifo costau sy’n ymwneud â rhedeg eich busnes eich hun, gan ddefnyddio cyfriflenni
- Defnyddio strategaethau marchnata digidol i gynyddu gwerth brandiau.
Gwybodaeth allweddol
- Pedair radd D ar lefel TGAU.
Asesu:
- Arholiadau ysgrifenedig
- Aseiniadau rhaglennu
Meini Prawf Graddio:
- Asesiad mewnol (70%)
- Asesiad allanol (30%)
Asesir unedau gan ddefnyddio graddfa Rhagoriaeth (D), Teilyngdod (M), a Phasio (P). Defnyddir graddfa PP i D*D* ar gyfer cymwysterau.
Cyflogaeth: Bydd y cwrs yn gwella rhagolygon y myfyrwyr o gael mynediad i Brentisiaeth Fodern neu NVQ Seiliedig ar Waith ym myd busnes.
Swyddi yn y diwydiant hwn: Swyddog gweinyddol, clerc gweinyddol, derbynnydd a swyddog gweinyddol cymorth busnes.
Aros yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: Bydd gradd Teilyngdod ar y cwrs hwn, a phresenoldeb da a gradd C mewn Saesneg, yn rhoi modd i fyfyrwyr symud ymlaen i’r cwrs BTEC Diploma Lefel 3 mewn Busnes gyda Sefydliad Bancio a Chyllid Llundain.