Safon Uwch Cyfrifeg
Trosolwg
Amcanion y cwrs hwn yw eich helpu i ddeall cyfrifoldebau’r cyfrifydd ac effaith eu hargymhellion ar fusnes a’r amgylchedd ehangach.
Byddwch yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau, egwyddorion a thechnegau allweddol sy’n berthnasol i senarios bywyd go iawn. Byddwch yn datblygu eich gallu i ddatrys problemau yn rhesymegol, dadansoddi data yn drefnus, gwneud dewisiadau rhesymegol a chyfathrebu’n effeithiol.
Mae opsiwn i astudio cymwysterau’r diwydiant gyda Chymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) i wella’ch cyflogadwyedd yn y dyfodol.
Gwybodaeth allweddol
- O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU
- Gan gynnwys o leiaf radd B mewn Saesneg Iaith a Mathemateg.
Addysgir y cwrs amser llawn hwn gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu ac mae’r gwaith yn seiliedig ar sefyllfaoedd diwydiant bywyd go iawn sy’n galw am gywirdeb a’r gallu i drin llawer iawn o wybodaeth.
Mae’r cwrs yn ymarferol ei natur gyda llawer iawn o gyfranogiad gan fyfyrwyr. Anogir gwaith grŵp, ac mae astudio’n annibynnol yn hanfodol. Cymhwyster llinol ydyw ac fe’i hasesir drwy ddau arholiad ar ddiwedd Blwyddyn 2. Nid oes arholiadau UG ar ddiwedd Blwyddyn 1.
Mae nifer o fyfyrwyr yn dod yn gyfrifwyr cymwysedig trwy symud ymlaen i’r brifysgol neu i’r cwrs AAT Lefel 4 sy’n cael ei addysgu yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti.
Mae cyrsiau AU a addysgir yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn cynnwys HND Rheoli Busnes a BA Rheoli Busnes (cyrsiau breiniol Prifysgol De Cymru).