Skip to main content
 

Diwrnod Lles y Gaeaf Coleg Gŵyr Abertawe

Ychydig cyn gwyliau’r Nadolig, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe Ddiwrnod Lles arbennig i’w staff.

Fe wnaeth dros 130 o aelodau staff o bob campws fanteisio ar amrywiaeth o weithgareddau am ddim gan gynnwys sialens ystafell ddianc, gwneud torthau Nadolig, iacháu Siamanaidd, therapi anifeiliaid anwes, bingo a phêl-bicl. Yn ogystal, roedden nhw’n gallu ceisio cyngor ar faterion cyfreithiol, therapi adfer hormonau, iechyd meddwl a ffitrwydd.

"Mae’r Diwrnod Lles yn digwydd ddwywaith y flwyddyn ac mae’n gyfle i staff ymlacio ar ddiwedd tymor prysur, rhoi cynnig ar weithgaredd corfforol newydd, mwynhau crefft greadigol, neu geisio cyngor cyfrinachol am ddim ar amrywiaeth o faterion” meddai Sarah King, Dirprwy Bennaeth: Pobl a Lles.

“Gyda nifer o weithgareddau gwahanol yn cael eu cynnig ym mis Rhagfyr, roedd ‘na rywbeth i bawb ac rydyn ni’n edrych ymlaen i ddatblygu ein cynnig lles ymhellach yn 2025.” 

Daeth y digwyddiad hwn ar ddiwedd 12 mis llwyddiannus arall ar gyfer iechyd a lles yng Ngholeg Gŵyr Abertawe – un o’r uchafbwyntiau oedd cael ein henwi yn Sefydliad Sector Cyhoeddus y Flwyddyn yng Ngwobrau Adnoddau Dynol Prydain 2024.