Yn ddiweddar, fe wnaeth Mark Clement, Rheolwr Lletygarwch, Twristiaeth, Trin Gwallt a Therapi Harddwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ennill gwobr am ei deisennau melys mewn digwyddiad arbennig yn Nhŷ Sant Tewdric, Cas-gwent.
Cafodd Mark ei enwi yn enillydd rhanbarthol Cymru yng nghategori Dylunydd Cacen Briodas y Flwyddyn yng Ngwobrau Diwydiant Priodasau 2025 (TWIA).
“Dwi wrth fy modd o dderbyn y wobr hon, diolch yn fawr iawn i fy nghyplau priodas am gymryd yr amser i bleidleisio drosta i,” meddai Mark. “Dwi wedi gweithio’n galed dros ben dros y 37 mlynedd diwethaf, gan gydbwyso gofynion swydd amser llawn ochr yn ochr â bywyd teuluol a rhedeg fy musnes, ac felly mae’n wych cael cydnabyddiaeth am wneud rhywbeth dwi’n ei garu”.
Dewiswyd yr enillwyr rhanbarthol yn seiliedig ar sgorau pleidleisio cyfartalog ac adborth gan gwsmeriaid dros y 12 mis diwethaf, yn ogystal â barn y beirniaid arbenigol.
“TWIA yw’r gwobrau mwyaf trwyadl, uchel eu parch a gwerthfawr yn niwydiant priodasau’r DU, ac felly mae’r enillwyr rhanbarthol ar y blaen yn eu maes mewn gwirionedd,” meddai sylfaenydd y gwobrau Damian Bailey. “Mae’r gystadleuaeth yn anodd ac mae’r safonau’n uchel iawn ond, diolch i dros 27,000 o bleidleisiau gan gleientiaid a’n panel o fwy na 150 o feirniaid arbenigol, mae’r enillwyr rhanbarthol wedi codi i’r brig mewn diwydiant sy’n mynnu’r gorau oll.”
Bydd yr holl enillwyr rhanbarthol, gan gynnwys Mark, yn mynd trwodd i’r rownd derfynol genedlaethol yn Llundain yn Ionawr 2025.
Llun: Martin Dabek Photography