Skip to main content
  

Tîm anhygoel y Coleg yn mynd i ‘Oscars' y proffesiwn addysgu

Bydd tîm addysgu ysbrydoledig o Goleg Gŵyr Abertawe yn mynd i Lundain ar gyfer ‘Oscars’ y proffesiwn addysgu ar 30 Tachwedd, lle bydd seremoni Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson y DU yn anrhydeddu ac yn dathlu cyflawniadau rhagorol addysgwyr ledled y DU. 

Yn y seremoni, bydd tîm Tirlunio ac Eco-adeiladu’r Coleg yn cystadlu i ennill Gwobr Aur, ar ôl cael eu cydnabod ymhlith miloedd o enwebeion yn gynharach eleni pan enillon nhw Wobr Arian am Dîm AB y Flwyddyn.

Cychwynnodd y tîm ar eu taith yn 2019, gan lansio cwrs rhan-amser peilot i ddysgwyr o ysgolion cyfun lleol yn Abertawe. Fe wnaeth pob un o’r 80 o ddysgwyr hyn gwblhau eu cymhwyster yn llwyddiannus, gan ddatblygu sgiliau hanfodol fel gwydnwch, trefnu a gwaith tîm, ac arddangos eu hymroddiad a’u hymrwymiad i’r rhaglen.

Fe wnaeth llwyddiant y cwrs peilot hwn ysgogi gweledigaeth i ddatblygu ‘ysgol dysgu awyr agored’ lle mae dysgwyr yn gallu ymlacio gyda natur, ffynnu, llwyddo a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Ymlaen i 2024, ac mae darpariaeth y tîm wedi newid yn ddiweddar i Hwb Gwyrdd pwrpasol, a gafodd ei agor yn swyddogol gan Iolo Williams. Mae’r Hwb Gwyrdd yn cynnwys cyfleusterau anhygoel i fyfyrwyr fel ystafelloedd gwaith ac ystafelloedd celf, a’r tu allan mae gardd lysiau, ardal cynhyrchu bwyd, pwll, twnnel tyfu a pherllan.

Bydd y seremoni wobrwyo ddisglair, a gaiff ei chyflwyno gan y darlledwr teledu a radio Gaby Roslin yn The Brewery, yn dod ag athrawon, darlithwyr, staff cymorth, sefydliadau a gwesteion arbennig at ei gilydd. Bydd y noson yn tynnu sylw at waith anhygoel pawb mewn addysg, sy’n gwneud mwy na’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohonynt i sicrhau profiadau addysgol gwerthfawr a bythgofiadwy i bobl ifanc.

“Rydyn ni’n hynod falch o’n tîm Tirlunio ac Eco-adeiladu sy’n sicrhau bod pob un o’u dysgwyr yn gallu ffynnu, hyd yn oed pan fyddan nhw y tu hwnt i ffiniau ystafell ddosbarth draddodiadol,” meddai Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Kelly Fountain. “Yn ogystal â datblygu’r sgiliau hanfodol pwysig hynny fel gwaith tîm a chyfathrebu, mae’r tîm hwn hefyd wedi ysbrydoli eu dysgwyr, gan roi ymdeimlad o berthyn iddyn nhw ac ehangu eu gorwelion wrth iddyn nhw ddechrau meddwl am gyfleoedd dilyniant a gyrfa yn y dyfodol.

“Yn haeddiannol iawn enillodd y tîm Wobr Arian yn yr haf ac rwy’n dymuno pob lwc iddyn nhw ar gyfer y seremoni ar 30 Tachwedd, pan fyddan nhw’n cystadlu am y Wobr Aur!” 

Trefnir Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson gan Ymddiriedolaeth Gwobrau Addysgu, elusen annibynnol sydd wedi bod yn cefnogi addysgwyr am dros 25 mlynedd. Nod y gwobrau hyn yw cydnabod y rolau hanfodol y mae athrawon, staff cymorth, ac addysgwyr blynyddoedd cynnar yn ei chwarae o ran llywio bywydau pobl ifanc.

Fe wnaeth Mary Palmer, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Gwobrau Addysgu, rannu ei barn am y seremoni sydd ar ddod: “Mae pob addysgwr yn haeddu cydnabyddiaeth am yr effaith eithriadol y mae’n ei chael yn yr ystafell ddosbarth a’r gymuned ehangach bob dydd. Mae’r noson wobrwyo yn gyfle i gymryd eiliad i fyfyrio ar y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion a cholegau ledled y DU, ac yn dathlu pawb sy’n gwneud i hynny ddigwydd. Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cyrraedd mor bell, a phob lwc!”

Mae ceisiadau bellach ar agor i addysgwyr ar draws y wlad gael eu cydnabod yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson 2025. 

Gellir gwneud cyflwyniadau trwy wefan Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson.