Skip to main content
Group photo of Award winners

Dysgwyr disglair yn nigwyddiad dathlu Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe

Yr wythnos hon, cynhaliwyd digwyddiad i arddangos gwaith oedolion sy’n ddysgwyr er mwyn dathlu Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS).


Cafodd y digwyddiad dathlu ei gynnal ar 7 Tachwedd ochr yn ochr â digwyddiad cynllunio UNESCO. Mynychodd grwpiau dysgu ffurfiol ac anffurfiol y digwyddiad er mwyn helpu i gynllunio dathliadau degfed pen blwydd Dyfarniad Dinas sy’n Dysgu UNESCO.


Cafodd ymwelwyr gyfle i sgwrsio â myfyrwyr gan ddysgu am y gwaith celf a oedd yn hongian ar waliau Neuadd Siôr yn Neuadd Brangwyn. Cyflwynwyd yr holl waith a arddangoswyd gan oedolion sy’n dysgu ar draws Abertawe.


Ariennir Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS) gan Lywodraeth Cymru a bwriad y bartneriaeth yw annog amrywiaeth o sefydliadau blaenllaw i weithio gyda’i gilydd i gynnig cyrsiau achrededig ac achrededig hyd a lled Abertawe, er mwyn diwallu anghenion amrywiol dysgwyr.


“Mae gweld gwaith oedolion sy’n dysgu yn cael ei arddangos yn adlewyrchiad o rym ac effaith dysgu gydol oes. Fe wnaeth digwyddiad dathlu Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe gydnabod llwyddiannau’r dysgwyr hyn, gan weithredu fel ysgogiad pwysig i bawb. Mae eu hymrwymiad a’u cyflawniadau yn rhyfeddol,” meddai Kelly Fountain, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe a Chadeirydd y Bartneriaeth Dysgu Oedolion.


Dywedodd y Cyng. Alyson Anthony “Mae’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yn falch o fod yn aelod o Bartneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe. Mae’r Digwyddiad Dathlu yn adlewyrchiad o waith gwych ein Tiwtoriaid ac mae cyflawniadau ein Dysgwyr wedi rhoi cyfle i arddangos y gwaith gwych sy’n cael ei gyflawni ledled y Ddinas. Mae meddu ar deitl Dinas sy’n Dysgu UNESCO am ddegawd a mwy yn cydnabod ein hymrwymiad fel Cyngor i ddatblygu diwylliant dysgu ar draws y Ddinas.”


"Fel aelod balch o’r bartneriaeth, rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle i fod yn rhan o’r digwyddiad hwn ac rydym yn hynod o falch o lwyddiannau diri ein dysgwyr gwych yn ogystal â gwaith rhagorol ein tiwtoriaid, sy’n sicrhau mynediad i’r Gymraeg a diwylliant Cymreig i gannoedd o ddysgwyr ledled y rhanbarth bob blwyddyn. Mae’n hollol briodol, felly, i gynnal digwyddiad o’r fath i ddathlu’r cyflawniadau hyn.


"Ers aildanio ac ailfriandio’r prosiect yn 2023, mae Partneriaeth ALPS wedi mynd o nerth i nerth; mae’r partneriaid yn rhannu arferion da a chydweithio ar brosiectau, ond yn bwysicach oll, maent yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer oedolion sy’n byw yn rhanbarth Abertawe. Mae’r digwyddiad dathlu hwn yn arddangos cyflawniadau tiwtoriaid a dysgwyr dros y flwyddyn ddiwethaf. Hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran ac edrychwn ymlaen at ddatblygu Parneriaeth ALPS dros y flwyddyn nesaf." meddai Alex Lloyd, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu Addysg oedolion Cymru.


Hoffem ddiolch yr holl fyfyrwyr a staff sy’n rhan o’r bartneriaeth am rannu eu gwaith gwych ac am roi o’u hamser i fynd i’r digwyddiad.