Dathlu Twf a Rhagoriaeth mewn Addysg Carchar
Mae Novus Gŵyr yn falch o gyhoeddi ei Gynhadledd Dysgu ac Addysgu gyntaf erioed, gan ddathlu’r cynnydd rhyfeddol mewn addysg yng Ngharchar Ei Fawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc ers cymryd y contact addysg a hyfforddiant ym mis Rhagfyr 2022.
Menter ar y cyd yw Novus Gŵyr rhwng Novus, un o ddarparwyr rhaglenni addysg, hyfforddiant a chyflogadwyedd mwyaf y DU i garcharorion, a Choleg Gŵyr Abertawe, un o golegau mwyaf Cymru.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn stadiwm Swansea.com, heddiw dydd Mercher 30 Hydref, gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn y gwaith mae’r Coleg yn ei wneud i ddatblygu arferion addysgol o fewn yr amgylchedd carchar.
Mae’r gynhadledd hon yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad, ac arloesedd y staff addysgu yng Ngharchar Ei Fawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc, ac yn rhoi cyfleoedd pellach iddynt ar gyfer datblygiad proffesiynol.
Ers cymryd y contract, mae Novus Gŵyr wedi trawsnewid y cwricwlwm gyda ffocws cryf ar sgiliau cyflogadwyedd a rhagoriaeth addysgu, i gyd gyda’r nod o wella canlyniadau dysgwyr a’u helpu i ailsefydlu.
Bydd y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn cynnwys amrywiaeth o weithdai deinamig dan arweiniad arbenigwyr addysgol blaenllaw, er mwyn gwella arferion yr ystafell ddosbarth:
- Dave Harris a Nina Jackson: Bydd Dave a Nina yn hwyluso gweithdy ar Feddwl yn Annibynnol gan gynnig strategaethau i danio chwilfrydedd a magu gwydnwch ymysg athrawon mewn lleoliadau heriol.
- Mike Gershon: Ac yntau yn arbenigwr enwog mewn asesiadau dysgu, bydd Mike yn rhannu strategaethau sy’n helpu athrawon i gael yr effaith fwyaf bosibl ar ddysgwyr trwy asesu cynnydd a dealltwriaeth yn effeithiol.
- Rachel Clarke: Bydd Rachel yn arwain trafodaeth bwysig ar wrth-hiliaeth mewn addysg, gan dywys cyfranogwyr ar daith tuag at hyrwyddo cynwysoldeb a chydraddoldeb yn yr ystafell ddosbarth yng Ngharchar Ei Fawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc.
Mae Novus Gŵyr wedi ymrwymo i helpu dysgwyr yng Ngharchar Ei Fawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc i ddatblygu eu potensial trwy addysg o ansawdd a sgiliau cyflogadwyedd wedi’u targedu. Nod y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yw ysbrydoli athrawon trwy syniadau newydd a strategaethau ymarferol y gallan nhw eu rhoi ar waith i ddysgwyr a’u cynorthwyo ar eu llwybr i ailsefydlu a rhyddhau.
“Rydyn ni wedi gweld canlyniadau gwych yng Ngharchar y Parc dros y flwyddyn ddiwethaf,” meddai Rheolwr Datblygu Ansawdd Coleg Gŵyr Abertawe, Louisa Walters. “Mae’r gynhadledd hon yn dyst i waith caled ein haddysgwyr ymroddgar, ac rydyn ni’n falch iawn o roi cyfleoedd iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau ymhellach a rhannu arferion gorau.”
Meddai Sally Pearson, Pennaeth Dysgu a Sgiliau Novus Gŵyr: "Rydyn ni’n gyffrous iawn i gynnal ein cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol gyntaf. Trwy roi’r cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus hyn ac amser myfyrio i’n hathrawon, rydyn ni’n gwybod y byddwn ni’n gallu parhau i wella ansawdd y dysgu ac addysgu yng Ngharachar a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc, gan helpu dysgwyr i lwyddo, ailintegreiddio yn y gymdeithas ac ennill a chynnal cyflogaeth neu addysg ystyrlon adeg rhyddhau."
Wrth siarad am effaith ehangach y gynhadledd, dywedodd Mark Jones, Prif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe a Chyfarwyddwr Novus Gŵyr: “Mae gan addysg y grym i drawsnewid bywydau, ac yng Ngharchar a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc, rydyn ni’n gweld y trawsnewidiad hwn bob dydd. Mae ein staff yn allweddol o ran gwneud i hyn ddigwydd, ac wrth roi offer a strategaethau arloesol iddyn nhw, rydyn ni’n cryfhau eu capasiti i ysbrydoli a chefnogi eu dysgwyr.
"Trwy ein partneriaeth, rydyn ni hefyd yn gallu tynnu ar y cyfoeth o arbenigedd ar draws y partneriaid i sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad i ehangder o gyfleoedd cwricwlwm a dilyniant. Mae’r gynhadledd hon felly yn gam grymus ymlaen tuag at ein hymrwymiad i addysg o ansawdd sy’n ymestyn y tu hwnt i furiau’r carchar ac i ddyfodol pob dysgwr.”
DIWEDD
Gwybodaeth am Novus Gŵyr: Menter ar y cyd yw Novus Gŵyr rhwng Novus, un o ddarparwyr rhaglenni addysg, hyfforddiant a chyflogadwyedd mwyaf y DU i garcharorion, a Choleg Gŵyr Abertawe, un o golegau mwyaf Cymru.
Mae Novus yn cael eu hystyried yn arloeswyr ym maes adsefydlu a lleihau aildroseddi ac maent yn trawsnewid bywydau pobl trwy gynnig darpariaeth addysg a sgiliau eang iawn ledled Cymru a Lloegr. Mae Novus yn rhan o grŵp LTE, sef grŵp addysg a sgiliau integredig cyntaf o’i fath.
Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe bortffolio cwricwlwm eang iawn sy’n cynnwys darpariaeth academaidd a galwedigaethol. Yn ogystal, mae gan y Coleg enw da iawn am ansawdd ei ddygu a’i addysgu.
Trwy'r bartneriaeth unigryw hon byddwn yn harneisio'r cyfoeth o arbenigedd traws-grŵp i sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad i ystod o gyfleoedd cwricwlwm a dilyniant.
Capsiynau’r lluniau
O’r chwith i’r dde: Mark Jones, Prif Swyddog gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe, Louisa Walters, Rheolwr Datblygu Ansawdd Coleg Gŵyr Abertawe, Sally Pearson, Pennaeth Dysgu a Sgiliau Novus Gower a Peter Cox, Rheolwr Gyfarwyddwr Novus.
O’r chwith i’r dde: Mark Jones, Prif Swyddog gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe, Sian Hibbs, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymorth Strategol, Gweinyddol a Sicrwydd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM, Louisa Walters, Rheolwr Datblygu Ansawdd Coleg Gŵyr Abertawe, Sally Pearson, Pennaeth Dysgu a Sgiliau Novus Gower, Peter Cox, Rheolwr Gyfarwyddwr Novus a Donna Whitehall, Rheolwr Contractau Carchar EM a Gwasanaeth Prawf