Skip to main content
 

Tom Giffard AS yn cwrdd â dysgwyr o Goleg Gŵyr Abertawe sy'n elwa ar ddarpariaeth ddwyieithog

Yn ystod ymweliad â champws Gorseinon, Coleg Gŵyr Abertawe, cafodd yr Aelod o’r Senedd, Tom Giffard, gyfle i gwrdd â dysgwyr sy’n elwa o ddarpariaeth ddwyieithog sydd wedi ei gefnogi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  

Mae’r ddarpariaeth yn y meysydd Gofal Plant, Iechyd a Gofal, Diwydiannau Creadigol, Adeiladwaith, Busnes, Chwaraeon, Garddwriaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus.  

Yn ystod yr ymweliad fe wnaeth Tom Giffard AS gwrdd â Leri Watkins  sy’n ddysgwr 17 oed o Lanelli sy’n dilyn rhan o’i chwrs Lefel 3 mewn Gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. 

Meddai, “Mae gallu siarad Cymraeg yn y coleg yn bwysig i mi gan mai dyma fy mamiaith ac mae ei ddefnyddio yn mynd i helpu fi yn fy ngyrfa yn y dyfodol ym maes Gofal Plant. Rwyf wedi gwneud ffrindiau sy’n siaradwyr Cymraeg trwy fynychu digwyddiadau dwyieithog y coleg ac fel Llysgennad Cymraeg, mae wedi rhoi cyfleoedd i mi tu fewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth nid yn unig i wella fy Nghymraeg i ond i helpu eraill.”

Wrth gwrdd â’r dysgwyr meddai’r Aelod o’r Senedd:

"Roedd hi'n wych cwrdd â'r tîm yng Ngholeg Gŵyr Abertawe i ddysgu mwy am y gwaith maen nhw'n ei wneud i sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn defnyddio eu sgiliau Cymraeg. 

“Os ydym am gyrraedd ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn defnyddio ac yn datblygu ein sgiliau Cymraeg"

Ers sefydlu’r bartneriaeth gyda’r Coleg Cymraeg yn 2019, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi gwneud defnydd o holl raglenni datblygu staff a ariennir gan y Coleg. Mae Cynllun Gwreiddio  a Cymraeg Gwaith yn ddau enghraifft sy’n rhoi cefnogaeth i staff mewn colegau addysg bellach i ddefnyddio eu Cymraeg, ac i’w hysbysebu o’r adnoddau Cymraeg a gomisiynwyd gan y Coleg.

Yn ôl Nikki Neale, Dirprwy Bennaeth Chwricwlwm, Ansawdd, Addysgu a Dysgu, Coleg Gŵyr Abertawe, mae hyn wedi cael “effaith sylweddol” ar y dysgwyr. Meddai: 

"Mae'r cyllid a’r gefnogaeth gan y Coleg Cymraeg wedi cael effaith aruthrol ar y sefydliad gyfan. Mae cyflogi staff sy'n gallu siarad Cymraeg wedi trawsnewid yr iaith a glywir yn y coridorau ac mae llawer o staff nad oedd ganddynt yr hyder i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg ar un adeg yn defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn fwy.

“Mae hyn wrth gwrs wedi cael effaith sylweddol ar ein dysgwyr sydd bellach yn cael mwy o brofiad dwyieithog yn y coleg, gan eu helpu i werthfawrogi iaith a diwylliant Cymru a rhoi ymdeimlad o berthyn a balchder iddynt. 

“Mae'r gwaith hwn yn ymestyn y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth a'r coleg, gan y bydd ein dysgwyr yn mynd â'u dysgu dwyieithog yn ôl i'w cymunedau a'u gweithle."

Yn bresennol hefyd roedd Dr Lowri Morgans, Uwch Reolwr Addysg Bellach a Phrentisiaethau’r  Coleg Cymraeg. 

Wrth siarad am bwysigrwydd gwaith y Coleg yn y maes addysg bellach a phrentisiaethau meddai: 

“Mae’r Llywodraeth wedi adnabod twf mewn sgiliau dwyieithog ar draws y sector gyhoeddus fel blaenoriaeth, yn enwedig yn y prif feysydd dan sylw ac felly mae sicrhau bod modd dilyn cyrsiau galwedigaethol yn ddwyieithog yn hollbwysig.  

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, ac mae’r Coleg Cymraeg yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda’r colegau addysg bellach, a’r Llywodraeth, i gyflawni ein gweledigaeth hirdymor bod darpariaeth Gymraeg a dwyieithog ar gael i bawb sy’n astudio a hyfforddi yng Nghymru, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg.”  

DIWEDD

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Ryn ni’n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg.

Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog sy’n agored i bawb ac i ddatblygu gweithluoedd dwyieithog.