Skip to main content
  

Hannah yn cyrraedd y 100 Uchaf

Mae Hannah Pearce o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei henwi yn rhestr CITB fel un o’r 100 Menyw Mwyaf Dylanwadol ym Maes Adeiladu ar gyfer 2024.

Yn ei rôl fel Rheolwr Maes Dysgu Amgylchedd Adeiledig, mae Hannah wedi eirioli dros fwy o gyfranogiad gan fenywod yn y diwydiannau adeiladu.

Ers ymuno â’r Coleg yn 2022, mae’r adran wedi meithrin datblygiadau sylweddol mewn allgymorth addysgol a phartneriaethau diwydiant. Mae hyn wedi arwain at gynnydd o 366% mewn cyfranogiad menywod ar eu cyrsiau sy’n cynnwys plymwaith, gosodiadai trydanol, plastro, a gosod brics.

Mae Hannah hefyd wedi gweithio i ehangu cyfleoedd prentisiaeth, gan gydweithredu â thros 159 o sefydliadau i ddarparu profiad byd go iawn i fyfyrwyr.

A hithau yn arweinydd medrus yn y sectorau adeiladu ac addysg, gyda ffocws cryf ar gynaliadwyedd, technoleg a grymuso menywod, dechreuodd Hannah ei gyrfa fel peiriannydd sifil yn Lang O’Rourke, gan weithio ar brosiectau megis Tŵr Vauxhall ac adeilad Abercrombie ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen. Yma, nid yn unig roedd gwaith Hannah yn tynnu sylw at ei harbenigedd peirianneg ond hefyd ei hymrwymiad i integreiddio profiadau addysgol mewn prosiectau adeiladu.

Yn ystod ei gyrfa, cafodd Hannah lid yr ymennydd ac o ganlyniad sefydlodd hi Big Bang UK, gan ddatblygu rhaglenni cyfoethogi STEM ar gyfer ysgolion cynradd lle parhaodd â’i gwaith eirioli dros gyfraniad menywod ym maes adeiladu.

Mae ei hymdrechion wedi ennill cydnabyddiaeth fawr, gan gynnwys Gwobr Gweithgaredd a Gwasanaeth Plant Cymru yn 2020 a chyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Chwarae Teg Menyw mewn STEM yn yr un flwyddyn.

Mae dylanwad Hannah yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth hefyd. Ar hyn o bryd mae hi’n gwasanaethu ar sawl bwrdd diwydiant, gan gynnwys bod yn aelod gweithredol o’r bwrdd yng Ngrŵp Cymorth Adeiladu Bae Abertawe lle mae hi’n parhau i lywio dyfodol y diwydiant adeiladu.

“Mae’n anrhydedd cael fy enwi yn rhestr y 100 Uchaf, dwi wrth fy modd,” dywedodd Hannah. “Drwy gydol fy ngyrfa, dwi wastad wedi bod yn ymrwymedig iawn i ddatblygu rôl menywod mewn peirianneg ac adeiladu, felly mae gweld fy enw ochr yn ochr â’r modelau rôl benywaidd eraill hyn yn deimlad arbennig.

“Dwi’n gobeithio bydd y gydnabyddiaeth hon yn dangos i bobl eraill, yn enwedig y rhai sy’n ystyried ymuno â’r diwydiant, fod ‘na amrywiaeth o rolau ar gael yn y sector a bod ‘na le i bawb.

“Byddwn i’n argymell i unrhyw un a hoffai ddilyn gyrfa mewn adeiladu i edrych ar wefan Go Construct sydd yn adnodd gwych ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth.”

“Mae hwn yn anrhydedd gwych i Hannah ac mae hi’n llwyr haeddiannol ohono” meddai Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Kelly Fountain. “Yn ystod ei hamser yn y Coleg, mae Hannah wedi trawsnewid ein hadran Amgylchedd Adeiledig trwy ei gweledigaeth, ei brwdfrydedd a’i hymroddiad i ehangu cyfranogiad ar gyfer dysgwyr benywaidd ifanc.

"Bu cynnydd cadarnhaol yn nifer y myfyrwyr benywaidd sy’n cofrestru ar ein cyrsiau ac felly mae hynny yn dyst i’r ymroddiad ‘ma. Mae Hannah yn fodel rôl rhyfeddol ar gyfer y sector a’r Coleg. Llongyfarchiadau Hannah ar y gydnabyddiaeth haeddiannol iawn ‘ma!”