Skip to main content

Datblygwr Cysylltiol Microsoft Power Automate RPA (PL500) - Cymhwyster

Rhan-amser, GCS Training
Microsoft Vendor Certification
TBC
Pedwar Diwrnod

Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk

Trosolwg

Mae'r cymhwyster hwn yn helpu sefydliadau i wneud y mwyaf o’u gweithrediadau trwy symleiddio, awtomeiddio a thrawsnewid tasgau a phrosesau busnes.  Bydd dysgwyr yn deall sut i awtomeiddio cymwysiadau Windows a phorwyr a therfynellau eraill sy’n cymryd llawer o amser neu yn cynnwys prosesau ailadroddus.

Bydd dysgwyr yn defnyddio ystod o ddulliau awtomeiddio megis IU, API a Chronfeydd Data, a byddant yn dadansoddi, dylunio a gweithredu awtomeiddiadau trwy ddefnyddio llifoedd bwrdd gwaith Power Automate a llifoedd y cwmwl. Trwy awtomeiddio prosesau robotig (RPA), bydd dysgwyr gweithredu â rhesymeg wrth drin data, cymwysiadau a gwasanaethau.

Bydd dysgwyr yn derbyn cymorth ar ôl cwblhau’r cwrs i ymgymryd ag arholiad Microsoft PL500, er mwyn ennill statws achrededig PL500.

Mae sefyll arholiad PL500 yn ofyniad gorfodol er mwyn sicrhau cyllid, felly bydd disgwyl i bob myfyriwr rannu canlyniad yr arholiad gyda Choleg Gŵyr Abertawe.

Gwybodaeth allweddol

Rhaid i ddysgwyr feddu ar brofiad o ddefnyddio:

  • Bwrdd gwaith Windows
  • Ieithoedd sgriptio e.e. VBScript a JavaScript
  • Fframwaith .NET i gwblhau gweithredoedd arbennig 
  • Microsoft Dataverse

Mae unedau'r cymhwyster yn cynnwys:

  • Dechrau defnyddio Power Automate ar gyfer y bwrdd gwaith
  • Defnyddio Power Automate i gwblhau tasgau datblygu bwrdd gwaith hanfodol
  • Dylunio Power Automate at ddiben llif bwrdd gwaith
  • Mesur paramedrau mewnbwn ac allbwn trwy ddefnyddio Power Automate
  • Integreiddio llifoedd bwrdd gwaith gyda chysylltydd Outlook ar gyfer y bwrdd gwaith trwy ddefnyddio Power Automate 
  • Defnyddio ysylltydd Teams yn Power Automate a llawer mwy!

Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft yn ymwneud ag apiau Power Platform.

Bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft.

Off