Skip to main content

Seminar Arweinyddiaeth: Edrych i’r Dyfodol – cyfle unigryw i ddysgu gan arweinwyr diwydiant

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi seminar arweinyddiaeth sy’n digwydd ar ddydd Iau 19 Medi, 10am – 4pm yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti.

Mae’r digwyddiad Edrych i’r Dyfodol, yn gyfle prin i gael mewnwelediadau gwych i faes arweinyddiaeth a rheolaeth gan siaradwyr gwadd nodedig, gan gynnwys Menai Owen Jones, Ben Burggraaf a Stuart Davies.

Bydd pob arweinydd uchel ei glod yn dod â chyfoeth o brofiad a doethineb ar draws amrywiaeth o bynciau allweddol sy’n hanfodol ar gyfer arweinwyr y dyfodol.

Ymhlith y testunau sy’n cael sylw yn y digwyddiad mae:

  • Cydraddoldeb: Deall pwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant mewn arweinyddiaeth
  • Cynaliadwyedd: Archwilio ffyrdd o integreiddio arferion cynaliadwyedd mewn strategaethau busnes
  • Arweinyddiaeth: Elfennau tebyg rhwng busnes a chwaraeon
  • Grymuso: Ysbrydoli pobl eraill trwy arweinyddiaeth drawsnewidiol.

Nid yw’r seminar hon yn ymwneud â gwrando yn unig, mae’n ymwneud ag ymgysylltu’n ddwfn â’r syniadau a fydd yn diffinio dyfodol arweinyddiaeth. Bydd y digwyddiad yn herio’r rhai sy’n bresennol i feddwl yn feirniadol am y ffactorau ehangach sy’n dylanwadu ar arweinyddiaeth, ac i ddysgu gan y rhai sydd wedi cael effaith fawr yn eu meysydd.

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gael ysbrydoliaeth a gwybodaeth gan amrywiaeth o arweinwyr uchel eu parch, yn ogystal â diwrnod llawn o ddysgu, rhwydweithio a thrafodaethau blaengar.

Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad ecsgliwsif hwn, ac mae disgwyl iddo fod yn boblogaidd iawn. I gofrestru eich diddordeb, llenwch y ffurflen gofrestru yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â hello@gcs.ac.uk

Menai Owen Jones: Mae Menai yn Brif Weithredwr arobryn gyda thros 12 mlynedd o brofiad, gan gynnwys Elusen Canser Plant Cymru LATCH a  The Pituitary Foundation, ac mae wedi cael ei chydnabod yn ddiweddar yn rhestr PINC 2024. Mae hi’n Gyfarwyddwr Anweithredol, yn Gynghorwr Annibynnol ac yn eiriolwr dros gyfiawnder cymdeithasol, tegwch a chynhwysiant. Mae Menai hefyd yn Gymrawd nifer o sefydliadau mawreddog ac yn fentor dynodedig.

Ben Burggraaf: Mae Ben yn dod o’r Iseldiroedd, a dechreuodd ei yrfa yn 2002. Mae ganddo brofiad helaeth mewn rheoli ynni. Fel Prif Swyddog Gweithredol Diwydiant Sero Net Cymru, mae bellach yn arwain ymdrechion i lywio clystyrau diwydiannol Cymru tuag at gyflawni allyriadau sero net, gan dynnu ar ei arbenigedd o rolau blaenorol yng Ngwaith Dur Port Talbot a Dŵr Cymru.

Stuart Davies: Mae Stuart yn gyn chwaraewr rygbi’r undeb gyda Chlwb Rygbi Abertawe a Chymru. Erbyn hyn mae ganddo yrfa lwyddiannus ym myd busnes, gyda rolau gweithredol mewn datblygu, gwasanaethau eiddo a rheoli rygbi. Ac yntau wedi rhwydweithio’n helaeth yng Nghymru, mae Stuart yn byndit rygbi adnabyddus a bydd yn siarad am yr elfennau tebyg rhwng arweinyddiaeth mewn busnes a chwaraeon.