Skip to main content

Marchnata Digidol Lefel 3 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 3
C&G
Llys Jiwbilî
21 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Bwriedir y brentisiaeth hon i ddysgwyr sy’n gyflogedig mewn rôl farchnata addas, sy’n defnyddio ac yn cefnogi brandio ac hyrwyddo ar-lein y cwmni. Mae’n fwyaf addas ar gyfer sefydliadau neu adrannau TG sy’n rheoli eu gwaith marchnata eu hunain.

Mae dysgwyr addas yn cynnwys y rhai sydd mewn rolau cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol, fel cynorthwywyr cyfryngau cymdeithasol, ymgynghorwyr cyfryngau cymdeithasol, dadansoddwyr cyfryngau cymdeithasol, swyddogion ymgysylltu â’r gymuned, cynorthwywyr cyfrifon digidol, cynorthwywyr marchnata digidol, swyddogion cyfathrebu digidol, dylunwyr gwe, rheolwyr marchnata symudol a rheolwyr marchnata digidol.

Gellir defnyddio’r brentisiaeth i uwchsgilio staff presennol neu newydd.

Gwybodaeth allweddol

Bydd dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr dynodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwyr a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a ddewiswyd yn addas ar gyfer rolau unigol yn ogystal â sgiliau a gwybodaeth blaenorol.

Addysgir y brentisiaeth o bell gan ddefnyddio Microsoft Teams, gyda hyfforddiant wyneb yn wyneb ar gael os bydd angen. Bydd y dysgwr a’r cyflogwr yn cytuno ar ddyddiadau ac amserau i sicrhau cyn lleied o darfu ag sy’n bosibl i’r sefydliad.

Unedau gorfodol

  • Deall yr amgylchedd busnes
  • Deall gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol mewn gwerthu a marchnata
  • Defnyddio technoleg gydweithredol
  • Egwyddorion marchnata a gwerthuso
  • Datblygu eich proffesiynoldeb eich hun
  • Metrigau a dadansoddeg marchnata digidol

Unedau dewisol

Mae’r unedau dewisol sydd ar gael ar gyfer y brentisiaeth yn cynnwys:

  • Egwyddorion hysbysebu a hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Marchnata ar beiriannau chwilio
  • Marchnata cynnwys
  • Marchnata ar e-bost
  • Meddalwedd fideo
  • Meddalwedd gwefan
  • Egwyddorion geiriau allweddol ac optimeiddio 
  • Rheoli prosiect a llawer mwy!

Er mwyn cwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn creu portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys dogfennau, e-byst, taenlenni a sgrinluniau o’r gwaith sy’n cael ei wneud.

Caiff y portffolio ei adolygu yn ystod y cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda thiwtoriaid/aseswyr a’i ddefnyddio at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar sef offeryn rheoli asesiadau ar-lein, gan roi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd y dysgwr yn effeithiol.