Skip to main content
Myfyriwr yn gwenu

Myfyrwyr yn sicrhau lleoedd mewn prifysgolion nodedig wedi canlyniadau Safon Uwch rhagorol

Myfyriwr yn gwenu

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu blwyddyn arall o lwyddiannau rhagorol o ran canlyniadau arholiadau a dilyniant i brifysgolion gorau’r DU. 

Mae myfyrwyr sy’n dilyn rhaglen Anrhydeddau CGA wedi sicrhau bron 200 o leoedd rhyngddynt mewn prifysgolion Russell Group.  

Ym mis Medi, bydd y myfyrwyr hyn yn mynd i Brifysgol Caerdydd (73 o leoedd wedi’u cadarnhau), Prifysgol Bryste (25), Prifysgol Caerwysg (23), Prifysgol Southampton (9), Prifysgol Warwig (9), Prifysgol Birmingham (7), Prifysgol Manceinion (7), Coleg y Brenin, Llundain (6), Prifysgol Rhydychen (4), Prifysgol Sheffield (4), Ysgol Economeg Llundain (3), Prifysgol Leeds (3), Prifysgol Lerpwl (3), Prifysgol Caergrawnt (2), Prifysgol Nottingham (2), Prifysgol Durham (2), UCL (2), Prifysgol Newcastle (1), Prifysgol Caeredin (1), a Phrifysgol Efrog (1).  

Bydd 20 o’r myfyrwyr hyn yn astudio meddygaeth, deintyddiaeth a milfeddygaeth ar lefel addysg uwch. 

Yn ogystal, mae chwe myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe bellach wedi cadarnhau eu lleoedd ym Mhrifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt gan ddechrau ym mis Medi.  

“Rydyn ni wrth ein bodddau gyda’r storïau llwyddiant hyn,” meddai Nikki Neale, Dirprwy Bennaeth Cwricwlwm, Ansawdd ac Addysgu. “Mae 200 o leoedd wedi’u cadarnhau mewn prifysgolion Russell Group ac mae hyn yn cynrychioli bron 20% o’n carfan o ymgeiswyr UCAS. Am gyflawniad gwych.

“Ein nod yw ychwanegu gwerth at brofiad y dysgwyr, gan eu cynorthwyo yn eu haddysg i allu gwireddu eu huchelgais ar gyfer y dyfodol. Dwi’n credu bod ein canlyniadau arholiadau eithriadol a’n dilyniant rhagorol yn dyst i hyn.” 

Eleni, cynyddwyd y gyfradd basio ar gyfer Safon Uwch yn y Coleg i 99%, gyda 1,164 o gofrestriadau arholiadau unigol. Mae’r canlyniad hwn yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru sef 97.4%, sy’n tanlinellu ymrwymiad y Coleg i ragoriaeth academaidd.

Roedd 33% o’r graddau hyn yn raddau A*-A, eto yn uwch na chyfartaledd ceneldaethol Cymru sef 29.9%. Roedd 60% yn raddau A*-B ac 84% yn raddau A*-C. Mae hyn yn adlewyrchiad o safonau cyflawni uchel y Coleg.

*** 

Mae rhaglen Anrhydeddau CGA yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn rhoi pecyn cymorth academaidd eithriadol i ddysgwyr ar gyfer gwneud ceisiadau cystadleuol i’r brifysgol. Mae’n cynnwys: sesiynau tiwtorial wythnosol ar feddwl yn feirniadol; cyfranogiad yn Academi Seren Llywodraeth Cymru (y Coleg yw’r Prif Hyb); paratoi ar gyfer Rhydgrawnt megis sesiynau tiwtorial ac ymweliadau â phrifysgolion; dosbarthiadau meistr pwnc-penodol; ffug gyfweliadau a phrofion derbyn; a chymorth gyda datganiadau personol. Yn ogystal, gall Rhaglen MDV y Coleg helpu i hwyluso cyfleoedd profiad gwaith.  

Gyda mwy nag 80 o aelodau staff mewn rolau penodedig cymorth i fyfyrwyr, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn sicrhau bod pob dysgwr Safon Uwch a galwedigaethol yn cael help gyda’u cyrsiau, eu hanghenion personol a’u lles. 

Mae hyfforddwyr cynnydd, hyfforddwyr bugeiliol a thiwtoriaid personol ar gael i bob myfyriwr, ac mae nifer o ddarlithwyr yn treulio amser gyda dysgwyr y tu allan i wersi rheolaidd i’w cadw ar y trywydd iawn. Mae cymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr hefyd.