Skip to main content
 

Y Coleg yn dathlu datblygiad staff Cyngor Abertawe

 

Roedd Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o nodi cyflawniadau diweddar carfan o ddysgwyr o Gyngor Abertawe mewn seremoni ddathlu yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti. 

Roedd y digwyddiad yn ffordd o gydnabod ymdrech a gwaith caled y dysgwyr dros y misoedd diwethaf, ac fe wnaethant dderbyn eu tystysgrifau ar ôl cwblhau cymwysterau proffesiynol mewn Arwain a Rheoli, Dadansoddi Data a Thai.

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Lucy Bird, Rheolwr Masnachol Tai Coleg Gŵyr Abertawe: “Braf oedd dathlu cyflawniadau tîm Cyngor Abertawe. Maen eu hymdrech wedi bod yn aruthrol, och yn ochr â’u llwythi gwaith prysur. Mae eu hymroddiad yn hollol ysbrydoledig, ac mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr ag Adran Hyfforddiant y Cyngor, mae eu cymorth a’u gweledigaeth ar gyfer datblygu staff wedi chwarae rhan allweddol yn y llwyddiant hwn.”

Ychwanegodd Georgina Cornelius, Hyfforddwr Tai yn y Coleg: “Mae gweithio gyda staff Cyngor Abertawe i'w helpu i ennill eu cymwysterau wedi bod yn werth chweil. Mae gweld eu hyder, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth yn blodeuo trwy gydol y gweithdai wedi bod yn wirioneddol wych. Braf oedd cael cyfle i ddathlu llwyddiant unigolion sydd wedi cwblhau eu cymwysterau gyda ni yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.”

Dywedodd Ann Smith, Cydlynydd Gwasanaethau Landlord a Thai Cymunedol Cyngor Abertawe: “Braf yw gweld cymaint o’n swyddogion newydd yn cyflawni cynnydd o fewn eu gyrfa, gan sicrhau dyrchafiadau. Mae hyn yn profi bod yr hyder, y wybodaeth a’r sgiliau y maent yn eu datblygu gyda Choleg Gŵyr Abertawe yn eu paratoi i gyflawni eu nodau’n llwyddiannus, sydd wrth gwrs yn cyfiawnhau’r gwaith caled y maent wedi’i gwblhau i ennill eu cymwysterau.”

Llongyfarchiadau i Peter Stacey, Kirsty Ali, Aled Davies, Paula Montez, Christian Handford and Elizabeth Langshaw ar eu cyflawniadau.