Skip to main content

Solar PV a Gwefru Batri - Cwrs

GCS Training
Lefel 3
BPEC
Tycoch
Pum diwrnod

Trosolwg

Mae Gosodwr Solar Ffotofoltäig yn gwrs ar gyfer unigolion sydd am sicrhau cymhwyster cydnabyddedig mewn gosod a chynnal a chadw systemau technoleg adnewyddadwy. Mae'r cymhwyster yn cael ei gydnabod a'i dderbyn gan y Cynllun Ardystio Microgynhyrchu.

Mae'r cwrs Systemau Storio Batri/Gwefrio yn addas ar gyfer gosodwyr trydanol sy'n gosod systemau ffotofoltäig gwrthdröydd a fydd yn elwa o osod systemau storio batris at ddibenion storio ynni i'w ddefnyddio maes o law.

Gwybodaeth allweddol

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio ar gyfer trydanwyr a gosodwyr profiadol sy'n dymuno gwella eu sgiliau a'u gwybodaeth gyfredol i'w galluogi i ddylunio, gosod, profi ac archwilio ystod o osodiadau storio ffotofoltäig a batris. 

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal dros bum niwrnod a bydd yn cynnwys elfennau ymarferol ac arholiadau ar-lein lle bo'n berthnasol.

Testunau

  • Cyflwyniad i EESS (Systemau Storio Ynni Trydanol)
  • Deall y gwahanol gydrannau a’r saernïaeth dan sylw.
  • Cymwysiadau EES a chyflyrau gweithredu
  • Systemau batris AC a DC
  • Nodi gwahanol fatris a'u nodweddion mewn perthynas ag EESS
  • Diogelwch a chynllunio
  • Dylunio, manylu, maint a gosod EESS
  • Cymeradwyo DNO a phroses cysylltiad rhwydwaith
  • Materion iechyd a diogelwch
  • Archwilio, profi, comisiynu a chynnal a chadw
  • Trosglwyddo a chwblhau dogfennaeth

Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar BS7671: Cymhwyster Rheoliadau Trydanol 2018 neu ardystiad cyfatebol sy'n cynnwys Arolygu a Phrofi.

Ffioedd: £850