Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch dros ben o gyhoeddi argaeledd prentisiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol newydd sbon, gan ehangu ein darpariaeth prentisiaeth arobryn ymhellach.
Wedi’i hachredu gan Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEX), mae’r rhaglen hynod ymarferol hon sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd yn rhoi modd i ymgeiswyr ddilyn amrywiaeth o rolau o fewn y sector cyfreithiol, gan gynnwys Paragyfreithiwr, Cynorthwyydd Cyfreithiol, Swyddog Gweinyddol Cyfreithiol ac Ysgrifennydd Cyfreithiol.
Bwriad y brentisiaeth yw datblygu’r sgiliau hanfodol, yr wybodaeth a’r arbenigedd proffesiynol sydd eu hangen i fod yn gynorthwyydd paragyfreithiol neu gyfreithiol llwyddiannus – rolau sy’n chwarae swyddogaeth hanfodol o ran cynorthwyo timau cyfreithiol a sicrhau bod cwmnïau’r gyfraith a phractisau cyfreithiol yn gweithredu’n esmwyth.
Bydd prentisiaid yn cael profiad ymarferol mewn meysydd megis ymchwil cyfreithiol, paratoi dogfennau, cyfathrebu â chleientiaid a rheoli achosion, gan eu paratoi ar gyfer llwyddiant ym myd deinamig gwasanaethau cyfreithiol.
Wrth sôn am y llwybr prentisiaeth newydd, dywedodd Darren Fountain, Rheolwr Maes Dysgu Busnes a Thechnoleg yn y Coleg:
“Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein prentisiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol newydd, fydd yn helpu gweithwyr proffesiynol cyfreithiol a darpar weithwyr cyfreithiol i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw i ddatblygu eu gyrfaoedd. Wedi’i lleoli yn adeilad hardd Ysgol Fusnes Plas Sgeti, bydd y rhaglen hon yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr cyfreithiol lleol i ddarparu cyfle hyfforddi ac uwchsgilio eithriadol.”
Ar gael o fis Medi 2024, bydd y rhaglen 21 mis yn cael ei haddysgu yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti y Coleg ac mae’n addas ar gyfer aelodau tîm newydd a phresennol o fewn y sector cyfreithiol.
I wybod rhagor am y brentisiaeth neu wneud cais amdani, ewch i’r ddolen hon neu cysylltwch â’n tîm yn uniongyrchol yn training@gcs.ac.uk