Skip to main content
Say It With Flowers

Gwaith myfyrwraig Llwyn y Bryn mewn arddangosfa yn Llundain

Mae myfyrwraig o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei dewis gan Gorff Dyfarnu UAL i arddangos ei gwaith yn Origins Creatives 2024.

Mae’r fyfyrwraig Ffotograffiaeth Lefel 3 Evangeline Roberts, sy’n astudio ar Gampws Llwyn y Bryn, wedi cael ei dewis i arddangos ei gwaith yn Origins Creatives, sy’n cael ei gynnal ym Mall Galleries, Llundain, ym mis Gorffennaf.

Fe wnaeth cyflwyniad Evangeline, Say It With Flowers, ddal sylw curadur Corff Dyfarnu UAL, Charlie Levine, ymhlith dros 500 o gyflwyniadau.

“Mae pawb yn Llwyn y Bryn wrth eu bodd ac yn hynod falch o Evangeline,” meddai Arweinydd Cwricwlwm y Celfyddydau Gweledol, Rachel Barrett. “Mae ei gwaith yn dangos aeddfedrwydd a sensitifrwydd gwirioneddol, ac mae ei llwyddiant yn haeddiannol. Am gyflawniad anhygoel i artist ifanc bod ei gwaith wedi’i ddewis ar gyfer arddangosfa – rydyn ni mor hapus! Da iawn, Evangeline!”

Mae Origins Creatives yn arddangosfa am ddim a drefnir gan Gorff Dyfarnu UAL. Mae’r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle unigryw i selogion celf, beirniaid, a gweithwyr proffesiynol diwydiant yn y sector creadigol i ddarganfod talentau gwreiddiol ac i ddathlu ymroddiad a gwaith caled creadigolion ifanc o bob cwr o’r DU ac yn rhyngwladol. Mae Origins Creatives yn darparu llwyfan i weld a dathlu talentau newydd, gan eu cysylltu â chydweithredwyr posibl, arweinwyr diwydiant, a chynulleidfa ehangach.

Mae’r arddangosfa yn amlygu gwaith eithriadol myfyrwyr o ganolfannau ledled y DU, gan arddangos eu doniau ar draws meysydd pwnc UAL Celf a Dylunio, Busnes ac Adwerthu Ffasiwn, Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth, y Celfyddydau Perfformio, Mynediad Lefel 3 mewn Celf a Dylunio a’r Celfyddydau Perfformio, cymwysterau Diploma Proffesiynol, a chymhwyster y Prosiect Estynedig.

Eleni, bydd Origins Creatives yn arddangosfa wyneb yn wyneb ym Mall Galleries, canol Llundain. Bydd yr arddangosfa yn lansio gyda noson agored, gwahoddiad yn unig, ar 16 Gorffennaf am 6pm. Bydd ar agor i’r cyhoedd rhwng 17 a 20 Gorffennaf, ochr yn ochr ag arddangosfa ar-lein.

Bydd yr arddangosfa yn cynnwys detholiad o waith a grëwyd gan fyfyrwyr o lefel mynediad a lefelau 1, 2, 3 a 4 ar draws pob maes pwnc. Gallwch ddisgwyl gweld ystod amrywiol o beintio, ffotograffiaeth, darlunio, cerflunio, ffasiwn a mwy.

Oriau agor yr arddangosfa i’r cyhoedd:

• Dydd Mercher 17 Gorffennaf, 10am – 5pm
• Dydd Iau 18 Gorffennaf, 10am – 5pm
• Dydd Gwener 19 Gorffennaf, 10am – 5pm
• Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf, 10am – 5pm

Cyfeiriad:

Mall Galleries, The Mall, St. James's,
Llundain SW1Y 5AS

Os hoffech ddod i’r digwyddiad hwn, archebwch eich tocyn 

DIWEDD

Gwybodaeth am Gorff Dyfarnu UAL 

Cymwysterau sy’n gwobrwyo creadigrwydd.

Mae Corff Dyfarnu UAL yn credu mewn addysg drawsnewidiol. Rydym yn dylunio ac yn dyfarnu cymwysterau creadigol sy’n grymuso ac yn ysbrydoli addysgwyr i helpu myfyrwyr i gyrraedd eu potensial.

Rheoleiddir Corff Dyfarnu UAL gan Ofqual, CCEA, a Rheoleiddio a Chymwysterau Cymru. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig cymwysterau mewn celf a dylunio, ffasiwn, y cyfryngau creadigol, cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio a chynhyrchu. Ni hefyd yw’r prif ddarparwr yn y DU ar gyfer y cymhwyster Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio. Mae cyfraddau cadw a chyflawniad uchel gan ein cymwysterau oherwydd maen nhw’n hyblyg, ymatebol a pherthnasol i anghenion diwydiant, ac yn hwyluso dilyniant myfyrwyr.

Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) yw prifysgol celf a dylunio arbenigol fwyaf Ewrop, sy’n cynnwys chwe Choleg enwog: Coleg y Celfyddydau Camberwell, Central Saint Martins, Coleg y Celfyddydau Chelsea, Coleg Cyfathrebu Llundain, Coleg Ffasiwn Llundain a Choleg y Celfyddydau Wimbledon.