Os oes gennyt ti ddiwrnodau canlyniadau penodedig, dylet ti gadw llygad allan am wahoddiad gennym ni w/d dydd Llun 5 Awst.
Bydd hwn yn rhoi manylion y trefniadau ar gyfer casglu dy ganlyniadau. Y diwrnodau canlyniadau penodedig yw:
Safon Uwch, Galwedigaethol Lefel 3 (fel BTEC, OCR, UAL, NCFE) a Bagloriaeth Cymru
Dydd Iau 15 Awst 2024 (o 9.15am)
TGAU a Galwedigaethol Lefel 2
Dydd Iau 22 Awst 2024 (o 9.15am)
Bydd canlyniadau ar gael hefyd drwy’r e-CDU ar y ddau ddiwrnod.
I gasglu dy ganlyniadau, rhaid i ti ddod â Cherdyn Adnabod (ID) sy'n cynnwys dy enw.
Os na alli di gasglu dy ganlyniadau’n bersonol, bydd angen i ti roi awdurdodiad ysgrifenedig (nid neges destun nac e-bost) i ganiatáu i rywun arall eu casglu ar dy ran. Dylai’r person hwn ddod â cherdyn adnabod hefyd. Ni allwn roi canlyniadau dros y ffôn nac ar e-bost o dan unrhyw amgylchiadau.
Bydd unrhyw ddatganiadau o ganlyniadau sydd heb eu casglu yn cael eu postio i dy gyfeiriad cartref ar brynhawn y diwrnod canlyniadau perthnasol.
Mae rhagor o ganllawiau i’w gweld ar y porth myfyrwyr.
Os nad oes diwrnod canlyniadau penodedig ar gyfer dy gymhwyster, bydd dy ganlyniadau’n ymddangos ar dy e-CDU pan fyddan nhw ar gael a byddi di’n derbyn dy dystysgrif gyda’r post.
Pwysig: rydyn ni’n postio pob tystysgrif cymhwyster i dy gyfeiriad cartref.
Wyt ti wedi newid dy gyfeiriad yn ddiweddar?
Os felly, e-bostia Enrolment@gcs.ac.uk cyn 13 Awst 2024 er mwyn diweddaru dy gofnodion.
Neges atgoffa: Os ydych chi’n casglu eich canlyniadau o Gampws Gorseinon, cofiwch fod gwaith adnewyddu yn cael ei gynnal yno, sy’n golygu bydd angen i chi barcio ym maes parcio Bloc A/Bloc Celfyddydau.
Bnyddwch yn derbyn neges gan ein tîm Arholiadau cyn 15 Awst a fydd yn cynnwys mwy o wybodaeth.