Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu - Dyfarniad
Trosolwg
Mae’r dyfarniad Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu yn addas i’r rhai sy’n gweithio yn y maes, neu sydd am gael dealltwriaeth o egwyddorion ac arferion sicrhau ansawdd.
Nod y cymhwyster yw darparu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol sy’n gysylltiedig â sicrhau ansawdd mewnol y broses asesu. Bydd dysgwyr hefyd yn cael cymorth i ddefnyddio’r wybodaeth hon trwy gwblhau portffolio o dystiolaeth i ddangos eu cymhwysedd fel swyddog sicrhau ansawdd mewnol.
Gwybodaeth allweddol
Rhaid bod dysgwyr yn alwedigaethol gymwys, yn brofiadol a/neu yn gymwysedig yn y sector lle byddan nhw’n sicrhau ansawdd mewnol.
Bydd angen i ddysgwyr fod yn aseswyr cymwysedig wrth eu gwaith am o leiaf un flwyddyn cyn dilyn y cymhwyster hwn.
Bydd y cymhwyster yn cael ei addysgu o fewn un diwrnod, sy’n cynnwys trafodaethau a gweithgareddau.
Testunau
- Rôl y swyddog sicrhau ansawdd mewnol
- Cynnal a gwerthuso systemau asesu a sicrhau ansawdd mewnol
- Cynorthwyo aseswyr (o leiaf ddwy flynedd)
- Monitro ansawdd perfformiad yr aseswyr
- Sut i fodloni gofynion sicrhau ansawdd mewnol gan gynnwys cydgysylltu â swyddogion sicrhau ansawdd allanol
- Cwblhau’r portffolio.
Gall dysgwyr symud ymlaen o’r cymhwyster hwn i ddyfarniadau neu unedau dysgu a datblygu ychwanegol.
Ar ddiwedd y cymhwyster, bydd dysgwyr wedi ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol gan eu galluogi i weithio fel swyddog sicrhau ansawdd mewnol cymwysedig.
£300 y pen.