Newyddion y Coleg
Prentisiaethau yn ‘ben ac ysgwyddau uwchben y lleill’
Mae salon arobryn yr Hair Lounge (sydd ag adeiladau yn Fforestfach a Sgiwen) yn dibynnu ar eu prentisiaid i redeg y busnes yn esmwyth o ddydd i ddydd.
Roedd yr uwch-steilydd Adrian wedi dewis y llwybr prentisiaeth ac wedi gweithio yn yr Hair Lounge am bron pum mlynedd.
Darllen mwy
Myfyrwyr yn mwynhau cynhadledd chwaraeon
Bu criw o fyfyrwyr L3 Chwaraeon o gampws Gorseinon yn ymweld â chynhadledd ‘Dwyieithrwydd mewn Chwaraeon’ yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wythnos diwethaf.
Trefnwyd y diwrnod gan y coleg drwy nawdd gan ColegauCymru gyda’r nod o hyrwyddo’r iaith Gymraeg ym maes chwaraeon. Cawsom sesiwn ddifyr gan y sylwebydd Huw Llywelyn Davies sylwebu’n ddwyieithog i’r BBC ar gemau rygbi, criced a phêl-droed, a chafwyd blas ar sut i sylwebu ar gemau byw.
Darllen mwy
Wythnos Gymraeg
Cafwyd wythnos llawn digwyddiadau i ddathlu Cymreictod yn y Coleg o gwmpas dydd ein nawdd sant - sef Dydd Gŵyl Dewi.
Addurnwyd y stafell gyffredin ar bob campws gyda chennin Pedr ymhobman, balŵns melyn a gwyrdd, a bu baneri fflag Cymru, cennin Pedr a’r genhinen hefyd yn addurno’r lle o byst i byst. Wrth gwrs fe oedd digonedd o bice ar y maen am ddim i’n myfyrwyr hefyd!
Prentisiaethau yn arwain at yrfaoedd mewn gwyddoniaeth
Ar hyn o bryd mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cefnogi pedwar prentis benywaidd wrth iddynt gymryd eu camau cyntaf tuag at yrfa mewn gwyddoniaeth.
Mae Hazel Hinder, Sally Hughes a Courteney Peart (Tata Steel) a Meghan Maddox (Vale Europe) yn astudio BTEC Diploma Gwyddoniaeth Gymhwysol ac NVQ Technegydd Labordy ar gampws Tycoch.
Darllen mwy
Dydd Miwsig Cymru
Mi oedd campws Gorseinon Coleg Gwyr Abertawe dan ei sang wythnos diwethaf wrth i ni ddathlu Dydd Miwsig Cymru – diwrnod cenedlaethol wedi’i sefydlu er mwyn dathlu cerddoriaeth cyfrwng Cymraeg cyfoes.
Bu Menter Iaith Abertawe yn ymweld â’r coleg yn DJio rhestr o ganeuon Cymraeg gan fandiau megis Candelas, Sŵnami, Bryn Fôn a Band Pres Llareggub er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg ein myfyrwyr o’r amrywiaeth mewn cerddoriaeth Gymraeg.
Darllen mwy
Coleg yn dathlu Santes Dwynwen
Bu Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu Dydd Santes Dwynwen mewn steil eleni. Addurnwyd stafell gyffredin Gorseinon llawn balŵns calonnau coch. Roedd pamffledi stori Dwynwen ymhobman, a digonedd o felysion, ‘Roses’ a chalonnau bach yn cael eu rhoi i’r myfyrwyr i godi ymwybyddiaeth o’r diwrnod hwn.
Ar gampws Llwyn y Bryn, creodd Kath Oakwood, Cynorthwyydd Llyfrgell arddangosfa Santes Dwynwen hyfryd. Bu Marc Nurse, Swyddog Adloniant Myfyrwyr, ar gampws Tycoch yn rhannu melysion dros y campws gan godi ymwybyddiaeth bellach.
Darllen mwy
Llwyddiant i nofwyr o’r coleg
Bu pedwar myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe, sy’n astudio Lefel-A ar gampws Gorseinon, yn cymryd rhan yn Gala Nofio Genedlaethol yr Urdd yn ddiweddar.
Daeth Dylan Lambropolus, Kyle Job, Oliver Jones a Lewis Quirk yn gyntaf mewn dwy ras nofio gyfnewid – yr un amrywiol a’r un rhydd. Roeddent yn cystadlu yn erbyn disgyblion a myfyrwyr ar draws Cymru gyfan yn y categori oedran ‘dros flwyddyn 11’.
Darllen mwy
Gweddnewidiad i bengwiniaid Gwledd y Gaeaf
Roedd tîm Gwasanaethau Diwylliannol Dinas a Sir Abertawe ar gampws Llwyn y Bryn wedi cysylltu â staff a myfyrwyr ar gampws Llwyn y Bryn yn ddiweddar gyda chais arbennig iawn – sef ailaddurno ac ailbeintio Pengwiniaid Gwledd y Gaeaf ar y Glannau ar gyfer llawr sglefrio’r plant.
Darllen mwy
Llongyfarchiadau i'n myfyrwyr AU 2016
Yn ddiweddar aeth dros 100 o fyfyrwyr Addysg Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe i ddigwyddiad graddio arbennig yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe.
Roedd y myfyrwyr yn dathlu llwyddiant mewn pynciau mor amrywiol â chyfrifeg, peirianneg, arweinyddiaeth a rheolaeth, therapïau tylino chwaraeon, rheolaeth gwallt a harddwch, gofal plant, a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Darllen mwy
Hufen iâ + pitsa = elw
Mae disgyblion Blwyddyn 10 o Ysgol Gyfun Gellifedw sy’n dilyn Rhaglen Sbardun y coleg wedi gweithio mewn partneriaeth â Dominos i redeg digwyddiad llwyddiannus ar gampws Gorseinon – gan werthu hufen iâ Joe’s fel rhan o’u cymhwyster Menter.
“Wnes i wir fwynhau creu cynllun busnes a gweithio allan faint o elw sy’n gallu cael ei wneud,” dywedodd y disgybl Jake Todd, a weithredodd fel rheolwr y prosiect. “Dwi eisoes yn cydnabod y cymorth a’r cyfleoedd sydd ar gael i mi er mwyn symud ymlaen ymhellach yn y coleg.”
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 81
- Tudalen nesaf ››