Newyddion y Coleg
6 ffordd i wella eich rhagolygon gyrfa yn y dyfodol dros wyliau'r haf
Ychydig wythnosau ers dechrau'r gwyliau haf, rwy'n gobeithio bod myfyrwyr wedi dechrau ymlacio ac ailfywiogi ar ôl eu holl waith caled yn ystod yr arholiadau TGAU a Safon Uwch. Gyda mis o wyliau ar ôl i'w fwynhau, bydd nifer yn chwilio am gyfleoedd a fydd yn eu rhoi ar y blaen yn yr yrfa o'u dewis neu yn y lle gwaith yn gyffredinol. Yma, mae Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, yn sôn am chwe ffordd y gallai myfyrwyr ar draws Abertawe wneud y mwyaf o'u hamser dros yr haf i roi hwb i'w rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.
Darllen mwyBeth sy'n dod nesaf? Y camau i lwyddiant ar gyfer myfyrwyr Abertawe
Erbyn hyn bydd myfyrwyr ar draws Abertawe yn edrych ymlaen at gael hoe haeddiannol dros yr haf ar ôl wynebu eu her addysgol fwyaf hyd yma: eu harholiadau TGAU. Er bod nifer yn symud ymlaen i borfeydd newydd, mae rhai sydd dal yn penderfynu ar y camau nesaf ar eu taith addysgol.
I fyfyrwyr yn Abertawe, mae llawer o gyfleoedd i astudio ymhellach. Dyma sut mae Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, yn gweld y camau nesaf tuag at lwyddiant.
Darllen mwy
Michelle oedd wyneb SkillsCymru – ai chi fydd nesaf?
Mae’r helfa am ddarpar gyflwynwyr teledu, troellwyr radio neu gynhyrchwyr YouTube ymlaen, wrth i bobl ifanc ledled Cymru gael eu hannog i ymgeisio i fod “wyneb” SkillsCymru.
SkillsCymru yw cyfres ddigwyddiadau flynyddol fwyaf Cymru am yrfaoedd, sgiliau, swyddi a phrentisiaethau a fydd yn dychwelyd i Landudno a Chaerdydd ym mis Hydref 2017.
Mae’r trefnyddion yn chwilio am gyflwynwyr newydd, a gaiff eu dilyn gan griw ffilmio wrth iddynt fforio’r digwyddiad a chyfweld ag arddangoswyr ac ymwelwyr.
Darllen mwyLlwyddiant i gyn-fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe
Mae dau o gyn-fyfyrwyr Adran y Gymraeg, Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu yn sgil cael canlyniadau ardderchog yn eu cyrsiau gradd ym Mhrifysgol Abertawe.
Bydd Kayleigh Jones a Lewys Aron yn graddio â gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o’r Brifysgol yr haf hwn.
Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol 2017
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn edrych ymlaen at gefnogi Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol 2017.
Ar hyn o bryd mae'r Coleg yn cynnig tua 40 o lwybrau galwedigaethol i ddysgwyr amser llawn, sy'n cynnwys cyrsiau mewn pynciau mor amrywiol ag arlwyo, technoleg ddigidol, harddwch, chwaraeon a theithio a thwristiaeth.
Un myfyriwr sy'n mwynhau ei daith yn y coleg yw Josh Neill sy'n astudio i ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Lletygarwch ac Arlwyo.
Darllen mwy
Myfyrwyr yn mynd i golegau gorau’r DU
Mae myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi llwyddo i gael lleoedd yn rhai o’r ysgolion actio a theatr mwyaf poblogaidd yn y wlad.
Mae’r myfyrwyr – o amrywiaeth o gyrsiau BTEC y Celfyddydau Perfformio, y Celfyddydau Cynhyrchu a Safon Uwch Drama – yn dod i ddiwedd eu cyfnod ar gampws Gorseinon ac yn edrych ymlaen at y cam nesaf yn eu gyrfaoedd.
Darllen mwy
Llongyfarchiadau i’n myfyrwyr Rhydgrawnt 2017
Mae saith myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lleoedd i astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Rhydychen eleni. Y myfyrwyr yw:
Darllen mwyGwasanaeth Parcio a Theithio i ddod i ben
Bydd y gwasanaeth Parcio a Theithio am ddim sydd wedi rhedeg o Fforestfach i gampws Tycoch er mis Tachwedd yn DOD I BEN ar ddydd Gwener 7 Ebrill.
Bydd lleoedd parcio ychwanegol ar gael yn Nhycoch dros yr wythnosau nesaf oherwydd bydd nifer o’n cabanau dysgu dros dro yn cael eu symud o’r safle.
Byddwch cystal â sicrhau eich bod yn parcio yn y lleoedd parcio dynodedig. Gallwch ddefnyddio lleoedd parcio i bobl anabl dim ond os ydych yn arddangos bathodyn anabledd glas swyddogol neu gerdyn parcio’r Coleg i bobl anabl.
Darllen mwy
Llwyddiant mewn cystadleuaeth sgiliau i fyfyriwr electroneg o Abertawe
Mae bachgen 22 oed o Mayhill wedi cipio’r fedal aur mewn electroneg, yn rownd derfynol cystadleuaeth sgiliau genedlaethol.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir mewn colegau ar hyd a lled y wlad yw Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, gyda’r nod o ddathlu sgiliau galwedigaethol a chreu gweithwyr cyflogedig arobryn, hynod fedrus ar gyfer gweithlu Cymru.
Darllen mwyCydweithrediad coleg / diwydiant yn arwain at gyfleoedd prentisiaeth
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi datblygu cydweithrediad cyffrous gyda’r arbenigwyr electroneg diwydiannol Kontroltek, sydd wedi'u lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ar ôl i’r ddau sefydliad weld cyfle posibl i symud myfyrwyr yn ddi-dor o amgylchedd y coleg i brentisiaethau llwyddiannus, ysgogol.
Mae Kontroltek yn arbenigo mewn atgyweirio a chyflenwi nwyddau electronig, trydanol a mecanyddol. Ar hyn o bryd mae ganddynt 40 o weithwyr, ond mae gan y cwmni uchelgais helaeth i dyfu eu gweithlu gan ddefnyddio'r 'genhedlaeth nesaf' o beirianwyr electronig.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 80
- Tudalen nesaf ››