Newyddion y Coleg
Gwell Swyddi a Gwell Dyfodol ar y gorwel i Abertawe
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn lansio menter newydd sbon gyda’r nod o fanteisio i’r eithaf ar gyflogadwyedd a dilyniant yn y gwaith yn ardal Abertawe.
Bydd y rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn gweithio ochr yn ochr â rhaglenni uwchsgilio presennol y coleg i helpu pobl ddi-waith i gael hyd i swydd, a helpu’r rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth i gael gwell swyddi trwy gyngor a mentora wedi’u teilwra’n unigol.
Darllen mwyAndy and Danny – myfyrwyr buddugol!
Llongyfarchiadau mawr i’r myfyriwr Cerbydau Modur Andrew Tipton a’r myfyriwr Gradd Sylfaen Chwaraeon/Academi Pêl-droed Danny Williams a enillodd y gwobrau am Ddilyniant (6ed Dosbarth/Coleg) a Seren Chwaraeon yng Ngwobrau Cyflawnwyr Ifanc Radio Bae Abertawe yng Ngwesty’r Towers.
Rheolwr Menter Sue Poole yn cystadlu am ddwy wobr
Mae Sue Poole, Rheolwr Menter Coleg Gŵyr Abertawe a Phrif Swyddog Gweithredol / Cyfarwyddwr y Ganolfan Addysg Entrepreneuraidd (C4EE) wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer nid yn unig un, ond dwy wobr, dros yr wythnosau nesaf.
Mae Sue, a sefydlodd y ganolfan C4EE arobryn yn 2014, wedi cael ei henwebu yn y categori ‘Entrepreneur #GoDo y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Great British Entrepreneur Natwest 2017 fydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar 4 Hydref.
Darllen mwyLlwyddiant hyfforddiant yr Urdd i fyfyriwr
Ymunodd Rebecca Jones, myfyriwr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe, a’r Urdd ar eu Penwythnos Hyfforddiant Chwaraeon yn Aberystwyth yn ddiweddar.
Drwy weithio mewn partneriaeth a Phrifysgol Aberystwyth, crëwyd 'SuperTeams' lle bu bobl ifanc ledled Cymru yn dod at ei gilydd a chystadlu mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon gan gynnwys pêl-fasged, nofio, athletau a pêl-osgoi.
Darllen mwyDanteithion Cymreig i fyfyrwyr Rhyngwladol newydd
Roedd adran Ryngwladol Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal digwyddiad ‘ymgyfarwyddo â chanol y ddinas’ ar gyfer ei charfan newydd o fyfyrwyr.
Uchafbwynt y diwrnod oedd blasu cocos, bara lawr a phice ar y maen ym Marchnad Abertawe – diolch yn fawr iddyn nhw am ddarparu’r bwydydd blasus am ddim!
Mae Campws Gorseinon wedi croesawu cyfanswm o 36 o fyfyrwyr Safon Uwch newydd ym mis Medi o wledydd megis Tsieina, Hong Kong, Taiwan, De Corea, Singapôr a’r Aifft.
Myfyriwr ESOL yn Llysgennad Chwaraeon
Mae myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dychwelyd o ymweliad pedwar diwrnod â Bwlgaria yn ddiweddar fel rhan o brosiect chwaraeon Erasmus+.
Digwyddodd y daith ar ôl i GolegauCymru gysylltu â thiwtoriaid ESOL y Coleg i weld a hoffai unrhyw rai o’u myfyrwyr wneud cais am rôl Llysgennad Datblygu Chwaraeon Ieuenctid (YSDA).
William yn ennill gwobr am brosiect gwyddoniaeth
Mae myfyriwr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi derbyn gwobr yn ddiweddar gan Tata Steel i gydnabod y gwaith a wnaeth yn ystod lleoliad haf.
Roedd William Hughes, sy’n astudio Mathemateg a Gwyddoniaeth ar gampws Gorseinon, wedi derbyn siec a gwobr am y Prosiect Gwerth Ychwanegol Gorau.
Roedd y lleoliad haf yn rhan o Gynllun Cyswllt 2017, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr STEM weithio ar brosiectau ‘bywyd go iawn’ ym myd diwydiant, ac a noddir gan Worshipful Company of Armourers and Brasiers.
Darllen mwyTrefniadau casglu tystysgrifau arholiadau
Bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn dosbarthu cardiau post yn fuan i roi gwybod i fyfyrywr bod eu tystysgrifau’n barod i’w casglu.
Peidiwch â cheisio casglu’ch tystysgrif cyn derbyn eich cerdyn post.
Bydd tystysgrifau’n barod i’w casglu o ddydd Llun 18 Medi yn ystod yr amserau ac o’r campws a nodir ar eich cerdyn post.
Rhaid i fyfyrwyr gofio i ddod â'u cerdyn hysbysiad a cherdyn adnabod â ffotograff gyda nhw.
Hanesion theatr yn ysbrydoli myfyrwyr newydd
Mae cyn-fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dychwelyd i gampws Llwyn y Bryn i annog a chymell myfyrwyr sydd newydd gychwyn ar eu hanturiaethau mewn addysg bellach.
Darllen mwyRhagor o fyfyrwyr CGA yn mynd i'r prifysgolion gorau
Mae myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe yn gwyrdroi'r duedd a nodir mewn dau adroddiad cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Yn y cyntaf ohonynt, mae'r ffigurau a ryddhawyd gan y corff derbyn UCAS yn dangos bod llai na 25% o bobl ifanc 18 oed yn chwarter etholaethau Cymru yn mynd i'r brifysgol – gyda ffigurau o dan 25% ar gyfer Gorllewin Abertawe a Dwyrain Abertawe, ffigur ychydig bach yn uwch ar gyfer Gŵyr, a'r ffigur uchaf yng Nghaerdydd ar 47%.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 70
- Tudalen nesaf ››