Tîm y Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn ennill Gwobr Addysgu Arian yng Ngwobrau Addysgu cenedlaethol Pearson
Wedi'i ddewis o filoedd o enwebiadau, mae Tîm y Celfyddydau Perfformio yn un o ddim ond 65 enillydd a ddathlodd ddydd Gwener 22 Mehefin – Diwrnod Diolch i Athro, wrth i’r Gwobrau Addysgu cenedlaethol nodi ei 20fed flwyddyn o ddathlu rhagoriaeth mewn addysg.
Mae Gwobrau Addysgu Pearson yn ddathliad blynyddol o athrawon eithriadol, a sefydlwyd ym 1998 gan yr Arglwydd Puttnam i gydnabod yr effaith y gall athro ysbrydoledig ei chael ar newid bywydau'r bobl ifanc y mae’n eu haddysgu.
Roedd Tîm y Celfyddydau Perfformio – sy’n gweithio ar Gampws Gorseinon y Coleg – wedi ennill Gwobr Addysgu Arian yn y categori, Gwobr Tîm AB y Flwyddyn. Byddan nhw nawr yn ymuno â chyd-enillwyr y Wobr Arian, ynghyd â thri enillydd Gwobr Addysg yr Alban a thri enillydd Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru, yn 20fed Seremoni Gwobrau Addysgu Pearson y DU, seremoni wych a gynhelir yng nghanol Llundain ar 21 Hydref. Yno byddan nhw’n dysgu pa un ohonynt sydd wedi ennill un o 12 Gwobr Aur Plato, sef Gwobrau Oscar y DU i Athrawon.
Wrth siarad am lwyddiant y tîm, dywedodd Rheolwr y Maes Dysgu, Lucy Hartnoll: “Mae hon yn wobr haeddiannol ar gyfer tîm eithriadol sy'n gweithio gyda brwdfrydedd ac ymroddiad i ddylanwadu ar fywydau pobl ifanc, gan gynnwys y rhai maen nhw’n eu haddysgu'n uniongyrchol, a phlant ysgolion cynradd lleol.
"Mae'r tîm yn cynllunio eu cwricwlwm i sicrhau, trwy theatr addysgol, eu bod nhw'n codi ymwybyddiaeth plant ifanc o faterion pwysig megis cydraddoldeb a chynaliadwyedd. Maen nhw’n cynrychioli gwir ethos cyfranogiad cymunedol, ac yn gwerthfawrogi'r cysylltiadau a wneir gydag ysgolion lleol i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf ym maes y celfyddydau creadigol. "
Mae prifathro Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones, wrth ei fodd gyda’r newyddion. Dywedodd: Mae’r wobr hon yn nodi diwedd blwyddyn eithaf eithriadol i dîm Celfyddydau Perfformio y Coleg - blwyddyn lle mae bron 30 o'u myfyrwyr wedi cael cynnig lleoedd yn rhai o'r colegau a’r prifysgolion mwyaf nodedig yn y DU - ac mae hyn yn gydnabyddiaeth haeddiannol o’u hymrwymiad a'u hymroddiad i'w myfyrwyr.
Dywedodd Rod Bristow, Llywydd Pearson y DU: “Llongyfarchiadau mawr i bawb sy'n derbyn tlws arian heddiw. Dylen nhw deimlo'n hynod falch o'u cyflawniadau ac ymuno â grŵp ysbrydoledig o enillwyr y Wobr Addysgu o'r ddau ddegawd diwethaf. Mae'n anrhydedd i Pearson gefnogi'r Gwobrau hyn bob blwyddyn - mae'n hollbwysig cydnabod a dathlu'r rheini yn y proffesiwn addysgu, am eu hymrwymiad i addysg a’r effaith maen nhw’n ei chael ar fywydau pobl ifanc.”
Bydd y rhestr o enillwyr yn cael ei chyhoeddi am 5pm ddydd Gwener 22 Mehefin.
DIWEDD