Skip to main content
Ymweliad y Clintons â Phrifysgol Abertawe yn rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth cenedlaethau’r dyfodol

Ymweliad y Clintons â Phrifysgol Abertawe yn rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth cenedlaethau’r dyfodol

Nid bob dydd rydych yn cael cwrdd â chyn Arlywydd yr Unol Daleithiau Bill Clinton a’r Ysgrifennydd Hillary Rodham Clinton.

Ond dyna yn union a ddigwyddodd i’n myfyriwr Anna Petrusenko pan aeth hi i ddigwyddiad Arweinyddiaeth ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol ym Mhrifysgol Abertawe

Am brofiad gwych i Anna!

"Roedd yn anrhydedd anhygoel i mi gael fy ngwahodd i’r llwyfan yn y digwyddiad gwych hwn ym Mhrifysgol Abertawe. Diolch yn arbennig i Steven Minney, Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr Israddedig, am fy ngwahodd i roi cyfweliad, gan roi modd i mi rannu stori fy mywyd, fy mhrofiadau a chynghorion arweinyddiaeth. Dwi hefyd yn hynod ddiolchgar i Rwydwaith Seren a Chydlynydd Rhydgrawnt y Coleg, Emma Smith, am eu cymorth amhrisiadwy yn paratoi ar gyfer y digwyddiad gwych hwn."

* Gallwch glywed cyfweliad Anna o 03:47 i 17:44

***

Bu cyn Ysgrifennydd yr Unol Daleithiau, Hillary Rodham Clinton, a'i gŵr, cyn Arlywydd yr Unol Daleithiau, Bill Clinton, yn rhannu eu barn am yr heriau a fydd yn wynebu arweinwyr y dyfodol gerbron cynulleidfa a lenwodd Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.

Hwn oedd ymweliad cyntaf yr Ysgrifennydd Clinton ag Abertawe ers 2019, ac yn ymuno â hi mewn digwyddiad cyhoeddus a gynhaliwyd gan y Brifysgol gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru roedd ei gŵr, yr Arlywydd Clinton.

Roedd y ddau yn westeion anrhydeddus mewn trafodaeth arbennig a ganolbwyntiodd ar heriau byd-eang. Yn ymddangos gyda nhw ar y llwyfan, roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS, ac Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle, mewn sgwrs a oedd hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd denu pobl ifanc i rolau arweinyddiaeth.

Bu'r cyn Ysgrifennydd Gwladol Clinton yn annerch y gynulleidfa o 600 a oedd yn cynnwys myfyrwyr Rhwydwaith Seren o ysgolion a cholegau addysg bellach lleol.

Adeiladodd yr ymweliad diweddaraf hwn â’r Brifysgol ar y berthynas hirsefydlog rhwng y sefydliad a'r Ysgrifennydd Clinton, a arweiniodd at enwi ei Ysgol y Gyfraith ar ei hôl - Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.

Yn ystod eu hymweliad, bu'r Ysgrifennydd a’r Arlywydd Clinton hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiad codi arian i gefnogi rhaglen Ysgoloriaethau Noddfa'r Brifysgol, sy'n cynnig cyfleoedd i bobl sy'n ceisio lloches yn y DU i gyrchu addysg uwch.

Meddai'r Athro Boyle: "Mae hi wedi bod yn fraint cryfhau ein cyfeillgarwch â'r Ysgrifennydd Clinton ymhellach a chroesawu'r Arlywydd Clinton i Abertawe am y tro cyntaf. Roedden ni wrth ein boddau'n arddangos cryfderau ac effaith ein Prifysgol i'n gwesteion ond hefyd yn rhannu eu hamser gyda ni â chynifer o fyfyrwyr lleol a phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol. Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth wrth gynnal digwyddiad mor bwysig i'n rhanbarth ac i Gymru."

Mae gan yr Ysgrifennydd Clinton gysylltiadau teuluol â Chymru, ac ymwelodd â Phrifysgol Abertawe am y tro cyntaf yn 2017. Ers hynny, mae hi wedi dychwelyd sawl gwaith, gan gynnwys i gwrdd â myfyrwyr ar raglen Ysgoloriaethau Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton.

Credyd PR a lluniau: Prifysgol Abertawe