Cafodd Tîm Echwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe, Gwdihŵs CGA, amser gwych yn nigwyddiad Bett 2025. Fe wnaethant ennill y gystadleuaeth Rocket League yn ogystal â chael cyfle i ymgysylltu ag arweinwyr o fewn y diwydiant, gan arddangos eu hangerdd am chwarae gemau mewn amgylchedd cystadleuol.
Fe wnaeth rhai o unigolion echwaraeon gorau’r DU o ystod o golegau ledled y wlad gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ond profodd Gwdihŵs CGA eu bod ben ac ysgwydd yn well na’r cystadleuwyr eraill. Fe wnaethant berfformio’n wych yn eu gemau Rocket League 3v3 o flaen cynulleidfa byw, gan frwydro yn erbyn timau cryf iawn - York Vikings a Loughborough Lycans - i ennill y gystadleuaeth. Fel cydnabyddiaeth o’u cyflawniad, derbyniodd y tîm dlws gwerthfawr a rheolwyr gemau.
Dywedodd Emyr, Myfyrwyr Echwaraeon Lefel 3 “Roedd yn brofiad gwych! Fe wnaethon ni weithio’n galed fel tîm a braf yw gweld ein gwaith caled yn dwyn ffrwyth. Roedd chwarae o flaen cynulleidfa byw yn brofiad bythgofiadwy ac roedd ennill y gystadleuaeth yn hwb mawr i’n hyder. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddyfodol Echwaraeon a’r profiadau i gyflawni llwyddiant o fewn y diwydiant.”
Y tu allan i’r gystadleuaeth, cafodd y myfyrwyr gyfle i gael rhagolwg o’r sesiynau sydd i ddod ar y datblygiadau diweddaraf, technolegau a chyfleoedd gyrfa sydd ar gael o fewn y diwydiant Echwaraeon. Cynhaliodd Ffederasiwn Echwaraeon Prydain drafodaethau ar rôl Echwaraeon mewn addysg a sut mae ysgolion a phrifysgolion yn integreiddio gemau i ymgysylltu â myfyrwyr, datblygu sgiliau trosglwyddadwy a meithrin cymuned.
Cafodd y cyfranogwyr fewnwelediad gwerthfawr i’r cwricwlwm, cymwysterau a chyfleoedd cyfoethogi, gan ddysgu sut y gellir gweithredu tueddiadau mewn amgylchedd addysgol er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o unigolion eChwaraeon dawnus. Fe wnaeth y digwyddiad atgyfnerthu’r cysyniad o ddysgu myfyrwyr heddiw fel y gallant arwain eraill yn y dyfodol, gan sicrhau llwybr cyffrous tuag at ddyfodol o fewn y diwydiant.
I grynhoi’r digwyddiad, dywedodd Kiran Jones, darlithydd mewn Echwaraeon: “Bydd ein myfyrwyr Echwaraeon yn arwain y ffordd yn y dyfodol mewn diwydiant sy’n esblygu yn barhaus, ac mae digwyddiadau fel Sioe Bett yn brofiad gwerthfawr iawn iddynt fel y gallant baratoi ar gyfer y dyfodol. Roedd gweld ein tîm Rocket league yn ennill mewn cystadleuaeth o’r fath yn wych, ac rydw i’n falch iawn o’u gwaith caled a’u hymroddiad."
Credydau llun:
British Esports & Jonas Kontautas.