Eleni, mae staff a myfyrwyr wedi achub ar gyfleoedd gwych i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngwladol – wedi’u hariannu gan Raglen TAITH – i wledydd megis Canada, Sbaen, Portiwgal a’r Iseldiroedd, gyda gweithgareddau wedi’u cynllunio i Sweden a Chenia.
Mae rhyngwladoldeb wrth wraidd ein cenhadaeth, ac mae’r Swyddfa Ryngwladol wedi bod yn brysur iawn yn trefnu’r ymweliadau hyn gan sicrhau bod CGA yn goleg gwirioneddol fyd-eang gyda gweithgareddau rhyngwladol arloesol i staff a dysgwyr.
Y llynedd, cafodd dau fyfyriwr ysgoloriaeth anhygoel i fynd i Ysgol Haf Coleg Humber yn Toronto sydd â’r cyfleusterau diweddaraf a thros 25,000 o fyfyrwyr. Roedd yn gyfle bendigedig i’n myfyrwyr ac roedden ni’n awyddus i ddatblygu’r bartneriaeth â sefydliad nodedig o’r fath.
Ar ôl nifer o gyfarfodydd, cytunon nhw i groesawu ein myfyrwyr Cyfryngau Creadigol ym mis Chwefror eleni. Doedd y myfyrwyr ddim yn gallu credu’r offer a’r meddalwedd uwch oedd ar gael. Un o uchafbwytiau’r daith oedd ymweld â Rhaeadrau Niagara, ac roedd y tirnodau a’r cyfleoedd diwylliannol yn ninas Toronto yn drawiadol hefyd.
Nid oedd llawer o’r grŵp wedi bod dramor o’r blaen, ac felly roeddent i gyd yn teimlo eu bod wedi newid er gwell ar ôl y daith hon. Roedd dysgu am realiti rhithwir ac argraffu 3D wedi tanio eu diddordeb i ystyried mwy o gyfleoedd gyrfa. Bydd datblygu’r bartneriaeth hon yn flaenoriaeth i’r Coleg oherwydd mae’n debygol y bydd nifer o bethau’n deillio o’r ymweliad hwn – gwyliwch y gofod hwn!
Yr ail ymweliad eleni oedd taith dychwelyd i ROC Midden yn yr Iseldiroedd, un o’r colegau mwyaf yn y wlad ac un o’n partneriaethau hynaf. Roedd ein staff Cerbydau Modur yn awyddus i gefnogi ein myfyrwyr ar y daith hon gan eu bod wedi gweld sut mae ein dysgwyr yn elwa ar leoliadau pythefnos mewn delwriaethau breiniol o’r radd flaenaf gan gynnwys Volkswagen, Audi, Ford, Citroën, Honda a KTM i enwi ond ychydig. Nid yn unig mae’r profiad wedi helpu’r myfyrwyr i wella eu CV ond mae hefyd wedi rhoi cyfle iddynt ddysgu sgiliau newydd, technegol ac ymarferol, trwy fod yn fwy annibynnol ac entrepreneuraidd a magu hyder. Cafodd dau o’n myfyrwyr gynigion cyflogaeth hyd yn oed!
Teithiodd grŵp o fyfyrwyr Lefel 3/4 Chwaraeon i Glwb Pêldroed Benfica ym Mhortiwgal. Mae’r daith hon wastad wedi bod yn llwyddiant ysgubol gan iddynt oll ddilyn rhaglen hyfforddi ardderchog lle cawson nhw brofiadau amhrisiadwy o wersyll hyfforddi Sport Lisboa e Benfica, gyda sesiynau theori gan yr arbenigwyr/athletwyr gorau.
Cawsant gyfle hefyd i hyfforddi gyda goreuon y byd, wrth ddysgu sut mae tîm amlddisgyblaethol (hyfforddwyr, gwyddor chwaraeon, meddygol) yn gweithredu mewn clwb proffesiynol, mewn gwlad a diwylliant gwahanol. At ei gilydd, roedd y profiad wedi gwella eu sgiliau trosglwyddadwy a’u sgiliau cyflogadwyedd. Bydd yr wybodaeth hon yn rhoi’r sgiliau a’r profiad iddynt sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n well yn y dyfodol a gwella eu CV.
Mae rhieni hefyd wedi gwerthfawrogi gwaith y staff sydd wedi bod yn paratoi ar gyfer y daith hon. Dywedodd un rhiant: “Diolch yn fawr eto am y profiad rhyfeddol rydych chi wedi’i roi i fy mab. Mae wedi mwynhau mas draw ac mae ganddo atgofion gydol oes i fynd â nhw gyda fe wrth i’w gyfnod yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ddod i ben. Hoffwn i ddiolch i’r holl staff a gymrodd ran.”
Mae cyllid TAITH wedi helpu i agor cyfleoedd i bron 60 o’n myfyrwyr hyd yn hyn eleni, gan ennyn eu chwilfrydedd a’u brwdfrydedd am y byd a chreu dinasyddion byd-eang. Mae’r Coleg, fel Llywodraeth Cymru, yn awyddus i roi mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr o bob cefndir ffynnu ac rydym yn annog ein myfyrwyr a’n staff i gymryd rhan.
Gan fod rhai o’n myfyrwyr yn dod o gefndiroedd cymdeithasol ddifreintiedig, gall cymryd rhan mewn teithiau cyfnewid rhyngwladol fod yn brofiad sy’n newid bywyd. Eleni nid oedd pasbort gan nifer o’n myfyrwyr ac nid oeddent erioed wedi teithio dramor o’r blaen, ac felly mae hyn yn bendant wedi ehangu eu gorwelion ac wedi effeithio ar eu hawydd i gyflawni a pharhau mewn addysg a dysgu.
Fe wnaeth ein tîm e-Chwaraeon helpu i staffio Dreamhack yn Jonkoping, Sweden, ar ôl cael eu gwahodd yn ôl ar ôl perfformiad rhagorol myfyrwyr y llynedd. Hefyd, cofiwch ein hymweliad â Chenia ar gyfer 20fed pen-blwydd ein helusen Prosiect Cenia sy’n cefnogi Ysgol Madunga.