Skip to main content

Symudiad gyrfa gyda chyfleoedd mawr a all helpu i fynd â chi i’r lefel nesaf

Gall uwchsgilio ar brentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe eich arwain at lwybr i lwyddiant.

Nid yw’n gyfrinach bod sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol i gyd yn hynod werthfawr i gyflogwyr – ac yn ffodus, mae yna un math o ddysgu sy’n gallu eich helpu i ennill pob un ohonynt mewn un pecyn twt: prentisiaeth.

Prentisiaethau yw rhaglenni dysgu seiliedig ar waith i unigolion o bob oedran sy’n gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos, lle mae gweithwyr presennol a recriwtiaid newydd yn gallu ennill sgiliau newydd, profiad sy’n benodol i’r gweithle, a gwybodaeth ddefnyddiol a all ddatblygu’r gweithle.

I ddathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru 2025, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi datblygu rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau i’ch helpu i ddarganfod mwy am y cyfleoedd uwchsgilio sydd ar gael.

Rhwng 10 ac 14 Chwefror, 2025, bydd yn cynnal ystod o sesiynau gwybodaeth prentisiaeth am ddim ar draws amrywiaeth o feysydd cwrs, gan gynnwys peirianneg nwy a gwres canolog, rheoli cyfleusterau, datblygu cymunedol, digidol, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad a mwy.

Bydd yn cael ei chynnal dros Microsoft Teams, a gall prentisiaid a sefydliadau posibl sgwrsio â’r tîm cyflenwi profiadol a gofyn cwestiynau am gyrsiau a llwybrau datblygu, gan gynnig cyfle i archwilio’r holl opsiynau sydd ar gael.

Sicrhau llwyddiant trwy brentisiaeth

Mae llawer o bobl wedi cael llwyddiant yn dilyn prentisiaethau, gan gynnwys Scott Tovey, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Treforys.

Yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol, dechreuodd Scott dreulio amser gyda rheolwr y safle yn ystod cyfnodau caniataol, gan helpu’r tîm ystadau i wneud mân swyddi, cyn gwirfoddoli wedyn y tu allan i oriau ysgol.

Fe wnaeth Scott barhau fel prentis ar ôl gadael yr ysgol, gan gwblhau prentisiaethau Lefel 2 a 3 mewn rheoli cyfleusterau, ac ennill gwobr Prentis y Flwyddyn y Coleg yng Ngwobrau Prentisiaethau 2022.

Dywedodd Lucy Bird, rheolwr masnachol Coleg Gŵyr Abertawe: “Mae stori Scott Tovey yn enghraifft ysbrydoledig o’r ffordd y gall prentisiaethau ddarparu llwybr gyrfa llewyrchus.

"Mae ei ymroddiad a’i waith caled i’w canmol yn fawr, ac oherwydd ei lwyddiant mae’n fodel rôl gwych i bobl eraill sy’n ystyried prentisiaethau.”

Ar ôl ei brentisiaeth, cychwynnodd Scott swydd amser llawn yn yr ysgol.

Cychwyn eich taith

Mae prentisiaethau yn rhaglenni hyfforddi wedi’u hariannu’n llawn, sy’n golygu nad oes ffioedd dysgu. Mae’ch cyflogwr yn talu eich cyflog tra bod Coleg Gŵyr Abertawe yn darparu’r cwrs hyfforddi o’ch dewis fel y gallwch ennill wrth ddysgu.

Mae amrywiaeth eang o brentisiaethau ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, o Lefel 2 i brentisiaethau lefel gradd. Dyma ychydig o’r llwybrau sydd ar gael...

Ystadau a rheoli cyfleusterau

Gyda chymwysterau ar gael ar gyfer pob lefel gallu, mae’r brentisiaeth hon yn cynnig cyfle i ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol i symud ymlaen yn y diwydiant, sy’n helpu busnesau i sicrhau’r perfformiad gorau.

Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad

I’r rhai a gyflogir mewn rolau sy’n darparu gwybodaeth ac arweiniad i eraill, gallai dysgwyr ar y prentisiaethau hyn fod yn gweithio mewn sefydliadau fel undebau llafur, ysgolion, cymdeithasau tai, adnoddau dynol, neu iechyd a gofal cymdeithasol.

Digidol

Ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur fel rhan o’ch swydd? Y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’ch busnes? P’un ai ydych yn gobeithio gwella eich sgiliau cadw cofnodion, gwneud mwy o ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, neu ddatblygu’ch seiberddiogelwch, eich gwefan neu’ch gallu chi neu’ch staff i ddadansoddi data, gall Coleg Gŵyr Abertawe helpu.

Datblygu cymunedol

Nod prentisiaethau datblygu cymunedol yw cynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr yn y gymuned a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, a chydnabod y rhai sy’n ymwneud â’r sector cymunedol.

Dysgwch ragor yn ystod Wythnos Prentisiaethau Cymru 2025
Ffair Prentisiaethau

Ddydd Mercher, 5 Chwefror, rhwng 4pm a 7.30pm, bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnal ei Ffair Prentisiaethau ar Gampws Tycoch.

Nod y digwyddiad pwrpasol hwn yw rhoi cyfle i bobl o bob oedran a gallu ddysgu rhagor am y prentisiaethau arobryn sydd ar gael, cael cymorth gyrfa/prentisiaeth, a mwy.

Bydd dros 94 o feysydd pwnc arbenigol yno, gan gynnwys cyfrifeg a chyfreithiol, adeiladu a pheirianneg, iechyd a gofal cymdeithasol, gwyddoniaeth labordy, a chyfryngau creadigol.

Byddwch hefyd yn cael cyfle gwerthfawr i gwrdd â chyflogwyr megis Cyngor Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Admiral, DVLA, DVSA, a Kier Construction ymhlith eraill.

Cofrestrwch ar gyfer y Ffair Prentisiaethau yma a dysgwch ragor am brentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe yn gcs.ac.uk/cy/apprenticeships.