Mae tri myfyriwr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cipio gwobrau yng nghystadleuaeth adolygu llyfr DylanEd 2019, a drefnwyd gan Brifysgol Abertawe fel rhan o ddathliadau ehangach Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas.
Roedd y myfyrwyr, sydd i gyd yn astudio Safon UG Saesneg Iaith a Llenyddiaeth ar Gampws Gorseinon, wedi cymryd rhan yng nghategori 16-18 y gystadleuaeth ac enillon nhw eu gwobrau mewn digwyddiad yn ddiweddar yn Neuadd y Ddinas.
Daeth Cara Davies a Caitlin Grigg-Williams yn gydradd drydydd, Cara am ei hadolygiad o Melmoth gan Sarah Perry, a Caitlyn am ei hadolygiad o Friday Black gan Nana Kwame Adjei-Brenyah.
Yn y cyfamser, daeth Megan Phillips yn gyntaf am ei hadolygiad o Trinity gan Louisa Hall.
“Rydyn ni wrth ein boddau gyda’r canlyniad hwn,” dywedodd y darlithydd Emma Smith. “Nid yn unig roedd y myfyrwyr wedi cael tlws a chopïau wedi’u llofnodi o’r llyfrau ar y rhestr fer ond roedden nhw hefyd wedi cael cyfle i gwrdd a siarad â’r awduron, ac felly roedden nhw yn eu seithfed nef!”
Mae cystadleuaeth DylanEd yn gwahodd disgyblion a myfyrwyr o ysgolion a cholegau ar draws Abertawe, yn ogystal ag israddedigion o Brifysgol Abertawe, i gynhyrchu adolygiadau huawdl a meddylgar o’r llyfrau ar restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas.