Mewn arddangosiad rhyfeddol o sgiliau ac ymroddiad, mae dau fyfyriwr Peirianneg Electronig o Goleg Gŵyr Abertawe wedi sicrhau medalau yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK (WSUK) eleni.
Fe wnaeth Faroz Shahrokh, Rhys Lock, a Tarran Spooner, sydd i gyd yn dilyn cwrs Diploma Estynedig L3 mewn Technolegau Peirianneg (llwybr Electroneg) ar Gampws Tycoch, sicrhau lleoedd gwerthfawr yn rowndiau terfynol Electroneg Ddiwydiannol yn dilyn cylch cychwynnol llwyddiannus. Yn y rowndiau terfynol, cipiodd Tarran fedal Aur, ac enillodd Faroz fedal Arian!
Yn ystod y cyfnod cyn y gystadleuaeth, roedd y dysgwyr, dan gyfarwyddyd arbenigol Rheolwr Hyfforddiant WSUK ac Arweinydd Cwricwlwm Peirianneg Electronig y Coleg, Steve Williams, yn cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi wythnosol ar-lein gyda gweddill carfan Electroneg Ddiwydiannol y DU. Yn ogystal, fe wnaethant ymgymryd â hyfforddiant yn y dosbarth gan fod paratoi ar gyfer cystadleuaeth sgiliau yn rhan o’r cwricwlwm.
Pwysleisiodd Steve Williams arwyddocâd cystadlaethau o’r fath o ran hogi sgiliau’r myfyrwyr: “Mae cymryd rhan yng nghystadleuaeth WorldSkills nid yn unig yn gwella arbenigedd technegol ond mae hefyd yn helpu ein myfyrwyr i fagu hyder”. Ac yntau’n falch iawn o lwyddiant y myfyrwyr, meddai “Fel Coleg, rydyn ni wrth ein bodd gyda’r sgiliau a’r penderfyniad mae’r dysgwyr hyn wedi’u dangos.”
Cafodd y teimlad hwn ei adleisio gan Jenny Hill, Cyfarwyddwr Datblygu Sgiliau a Phartneriaethau Ysgol, a ganmolodd y myfyrwyr am eu hymrwymiad i ragoriaeth: "Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o feithrin amgylchedd lle gall myfyrwyr ragori nid yn unig yn academaidd ond mewn cystadlaethau fel WorldSkills,” meddai. “Rydyn ni mor falch o’r dysgwyr hyn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddilyn eu camau nesaf.”
Wrth i’r Coleg ddisgwyl camau dilynol y gystadleuaeth, bydd Tarran a Faroz yn ymuno â Charfan WSUK i ddechrau’r lefel nesaf o hyfforddiant. Yn y pen draw, bydd un aelod o’r garfan yn cael ei ddewis i gynrychioli’r DU yng Nghystadleuaeth WorldSkills, Shanghai.