Skip to main content
Pupil at the Technocamps stall

Myfyrwyr a disgyblion yn cymryd rhan mewn digwyddiad mewnweledol gan Microsoft

Fe wnaeth dros 360 o ddysgwyr Coleg Gŵyr Abertawe ac ysgolion uwchradd lleol, gan gynnwys Cwmtawe, Dylan Thomas, Penyrheol ac Ysgol Gellifedw gymryd rhan mewn digwyddiad mewnweledol yn ddiweddar (dydd Mercher 22 Mai). Cafodd y sesiwn ei gynnig gan Goleg Gŵyr Abertawe, ar y cyd â Microsoft.

Fe wnaeth gynrychiolwyr o Microsoft a’u rhwydwaith partneriaid rhannu straeon am eu llwybrau gyrfa ym meysydd megis data, deallusrwydd artiffisial a seiberddiogelwch. Gwnaethant hefyd gynnal trafodaethau a sesiwn Cwestiwn ac Ateb ar faterion megis 'Menywod ym Myd Technoleg' a 'Sut i ddechrau gyrfa gyda Microsoft'.

Cynhaliodd staff y Coleg arddangosfa lle cafodd dysgwyr gyfle i ennill profiad ymarferol o ddefnyddio camerâu 360-gradd, offer Rhithwir/DA ac efelychwyr Echwaraeon. Mae’r Coleg hefyd yn ddiolchgar i fenter Technocamps Prifysgol Abertawe am ddarparu sgwrs ddifyr am roboteg. Yn ogystal â hyn, fe wnaeth Academii arddangos eu meddalwedd realiti rhithwir diweddaraf i helpu dod o hyd i atebion i broblemau busnes go iawn. 

Wrth sôn am y diwrnod, dywedodd Peter Scott, Arweinydd Sgiliau Digidol ac Arloesedd: “Rydyn ni’n gwerthfawrogi digwyddiadau fel hyn. Maen nhw’n cynnig cyfle i bobl ifanc gwrdd â chyflogwyr, gan eu helpu i ddeall mwy am y diwydiant digidol a’r gyrfaoedd sydd ar gael - maen nhw hefyd yn eu helpu i ddechrau meddwl am ba gymwysterau y sydd eu hangen arnyn nhw i ddilyn gyrfa ym maes digidol, gan roi cyfleoedd iddynt fod yn arloesol, meddwl yn feirniadol a dysgu gan weithwyr proffesiynol gwych!”

Ar ôl cael cyfle i fyfyrio ar y digwyddiad, dywedodd Tina Owen o Microsoft: “Fel Swyddog Gweithredol Cyfrifon Microsoft sy’n byw yn Abertawe, braint oedd trefnu tîm o siaradwyr o’r diwydiant i ddod i rannu eu straeon ysbrydoledig, gan dynnu sylw at yr ystod eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael ym maes digidol. 

“Pwrpas y digwyddiad oedd ymgysylltu â dysgwyr, gan lywio eu dewisiadau a’u llwybrau gyrfa a meithrin twf mewn perthynas â thalent o fewn y rhanbarth.

“Trwy rannu syniadau a phrofiadau ar y cyd, roedd hi’n sesiwn addysgiadol ac yn gyfle i ddathlu’r potensial sy’n rhan greiddiol o’r byd digidol. Roedd y digwyddiad yn adlewyrchiad o rym cymunedol ac yn gydweithrediad sy’n sicr wedi siapio dyfodol ein dysgwyr ifanc a’r diwydiant technoleg yn Abertawe.”