Skip to main content
Portread pen ac ysgwyddau

Isaac yn goresgyn heriau bywyd anoddaf i ennill gwobr genedlaethol

Ar ôl wynebu rhai o'r heriau bywyd anoddaf, mae Isaac Fabb bellach yn ddysgwr ysbrydoledig sy'n fodel rôl i bobl ifanc sy'n dechrau yn eu gyrfaoedd. 

Mae'r bachgen 22 mlwydd oed, a gafodd ddiagnosis o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn 17 oed, wedi goresgyn caethiwed i gyffuriau a cholli ei frawd-yng-nghyfraith i gaethiwed i ragori fel saer talentog.

Mae cyflawniadau Isaac o Abertawe wedi cael eu cydnabod gyda'r Wobr Sgiliau Gwaith yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2024, a bydd yn ei derbyn yn y seremoni  sy’n cael ei chynnal yng Ngwesty'r Coal Exchange, Caerdydd ar Fedi 10. Mae’n un o ddwsin o enillwyr gwobrau.

Wrth ymateb i'w wobr, dywedodd: “Rwy'n synnu ac yn hapus iawn o weld fy ymdrechion yn cael eu cydnabod ac mae diwydrwydd a gwaith caled wedi talu ar ei ganfed. Yn fwy felly, faint y gall fy stori fod yn ysbrydoledig i eraill.

“Fel teulu rydyn ni wedi goresgyn heriau enfawr ac mae'n fy llenwi â balchder i weld y cyflawniad hwn yn cael ei gydnabod, nid yn unig i mi ond i bawb oedd yn rhan o hynny, fel fy nheulu, fy nghydweithwyr yng Nghyngor Dinas Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe oedd i gyd yn credu ynof o'r dechrau. Mae wedi rhoi'r angerdd i mi barhau ar fy nhaith ddysgu.”

Yn uchafbwynt yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru o fis Medi 9-15, mae Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion yn cael eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac maen nhw’n cydnabod y rhai sydd wedi dangos ymrwymiad i beidio byth â rhoi'r gorau i ddysgu.

Mae pob un o enillwyr Ysbrydoli! yn dangos sut y gall dysgu gynnig ail gyfleoedd, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, magu hyder a helpu cymunedau i fod yn fywiog ac yn llwyddiannus.

Fe wnaeth y cyfrifoldeb o ddod yn dad yn ei arddegau ysgogi Isaac i newid ei fywyd. “Wrth edrych yn ôl nawr, rwy'n sylweddoli bod yr heriau wir wedi fy helpu i ganolbwyntio a bod yn fwy penderfynol i wneud yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud,” meddai. 

Er gwaethaf yr heriau hyn a gadael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau ffurfiol, roedd Isaac yn benderfynol o ennill gyrfa ac, yn erbyn cefndir o gaethiwed, gwnaeth geisiadau di-baid am wahanol gyrsiau coleg. 

Ar ôl cwpl o ymdrechion aflwyddiannus, i raddau helaeth oherwydd ei gyflwr, gwrthododd roi'r gorau iddi ac enillodd le ar gwrs adeiladu aml-sgiliau gyda Choleg Gŵyr Abertawe.

Fe ffynnodd a blwyddyn yn ddiweddarach sicrhaodd gyflogaeth gyda Chyngor Dinas Abertawe fel saer coed dan brentisiaeth, gan gyflawni nod o weithio o fewn ei yrfa ddewisedig wrth ddysgu. 

Roedd dysgu yn y gwaith yn gweddu’n well i Isaac, gan iddo ennill canlyniadau rhagorol a hefyd gyflawni ei radd TGAU mathemateg wrth gwblhau ei gwrs aml-fasnach. 

Yn dilyn cyflawni'r hyn yr oedd yn ei farn ef yn gamp amhosibl, fe wnaeth y coleg ei enwi fel eu Prentis Sylfaen y Flwyddyn, ac fe wnaeth ei gyflogwr yn ei ymgorffori yn ei dîm cyflogadwyedd sy'n annog pobl ifanc i ystyried prentisiaethau. 

Mae bellach yn ymgymryd â'i Lefel 3 gyda graddau a ragwelwyd o ragoriaeth ddwbl ac mae mewn trafodaeth i ymgymryd â HNC mewn Rheoli Adeiladu. 

“Er bod y daith bum mlynedd yn anodd, rwy'n awyddus i barhau a chofleidio'r her nesaf,” ychwanegodd Isaac. “Gallaf ddweud bod gwybod fy mod yn mynd i fod yn dad mor ifanc wedi fy ysgogi i nid yn unig goncro’r caethiwed ond i sefyll i fyny i fod yr oedolyn ifanc yr oedd angen i mi fod.

“Er bod rhwystrau, doedd dim byd yn fwy gwerth chweil na chyflawni gyrfa yr oeddwn i unwaith yn credu ei bod ymhell y tu hwnt i'm cyrraedd.” 

Meddai Medi Williams, Arbenigwr Cynnig Masnachol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Fe wnes i enwebu Isaac ar ran y coleg oherwydd ei fod yn ddysgwr ysbrydoledig sydd wedi dod yn fodel rôl i'r rhai nad oedd efallai wedi meddwl bodd addysg oedolion iddyn nhw.” 

I oedolion yng Nghymru sy'n awyddus i ddechrau ar eu taith ddysgu, bydd cyrsiau blasu wyneb yn wyneb a sesiynau ar-lein drwy gydol mis Medi ac yn ystod Wythnos Addysg Oedolion. Bydd cyngor a gwybodaeth ar gael yn lleol i ysbrydoli pobl i ddysgu fel ffordd o gynyddu eu cyflogadwyedd, meithrin sgiliau bywyd a gwella ansawdd eu bywyd.

Dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg: "Mae’r ymdrech, y dalent a'r penderfyniad sydd wedi cael eu harddangos gan yr holl gystadleuwyr yn rownd derfynol Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion eleni yn wirioneddol ysbrydoledig. 

"Rwy'n benderfynol y dylai Cymru fod yn fan lle mae pawb yn cael cyfle i ddychwelyd i ddysgu ac adnewyddu eu gyrfa ni waeth pa gam o'u bywydau maen nhw ynddo. Mae Wythnos Addysg Oedolion yn gyfle gwych i ddarganfod eich angerdd dros ddysgu neu wella eich sgiliau presennol. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n chwilio am gymorth neu newid cyfeiriad i edrych ar y gefnogaeth sydd ar gael gan Cymru'n Gweithio.

"Mae dysgu fel oedolyn nid yn unig yn ffordd wych o wella cyflogadwyedd ond mae hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd, yn ogystal â hybu hunan-barch a hyder."

Dywedodd Joshua Miles, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith: "Hoffwn longyfarch holl enwebeion ac enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2024 a diolch iddynt am rannu eu straeon ysbrydoledig gyda ni. 

"Maen nhw wedi goresgyn heriau sylweddol, fel materion iechyd, diweithdra, hyder isel, neu gyfrifoldebau gofalu, ac wedi trawsnewid eu bywydau trwy ddysgu. Wrth wneud hynny, maen nhw hefyd wedi ysbrydoli eraill i ddilyn ôl eu traed ac wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau ledled Cymru.

"Mae dysgu yn daith gydol oes sy'n gallu cyfoethogi ein bywydau mewn sawl ffordd. Nawr yn fwy nag erioed, mae'n bwysig ein bod ni’n cefnogi ac yn dathlu oedolion yng Nghymru sy'n dychwelyd i addysg yn ddiweddarach mewn bywyd yn y gobaith o ddyfodol mwy disglair."

I gael gwybod beth sy'n digwydd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion ac i gael cyngor personol ar eich opsiynau dysgu eich hun a'r cymorth sydd ar gael, cysylltwch â Cymru'n Gweithio ar 0800 028 4844 neu chwiliwch www.cymrungweithio.llyw.cymru/ 

Datganiad i’r wasg a llun: Diolch i Cymru’n Gweithio / Duncan Foulkes / Y Sefydliad Dysgu a Gwaith 

Sesiynau Blasu Wythnos Addysg Oedolion Am Ddim yng Ngholeg Gŵyr Abertawe