Skip to main content
Portread pen ac ysgwyddau

Gwir Fanteision Astudio yn y Coleg: gyda Phennaeth Coleg Gŵyr Abertawe

Gyda diwrnod canlyniadau TGAU (Awst 22) ar y gorwel, rydym wedi cael sgwrs gyda Kelly Fountain, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe i ddeall manteision astudio yn y Coleg i’r rhai sy’n gadael yr ysgol.

C: Allech chi roi trosolwg o Goleg Gŵyr Abertawe ar gyfer ein darllenwyr?
Coleg Gŵyr Abertawe yw un o’r colegau Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, ac rydym yn parhau i ddenu dysgwyr o fewn a thu hwnt i’n dalgylch lleol. Rydym yn denu dysgwyr o bob rhan o Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin, sy’n dyst nid yn unig i’n harlwy eang o bynciau, ond hefyd i’n hystod eang o gymorth i fyfyrwyr a chanlyniadau a chyfleoedd dilyniant ein myfyrwyr.

C: Pa bynciau sydd ar gael i ymadawyr ysgol?
Rydym yn cynnig dros 40 o gyrsiau Safon Uwch, ar draws holl feysydd y sectorau allweddol; gan ddarparu cymwysterau amser llawn, academaidd yn ogystal â chymwysterau galwedigaethol, rhan-amser. Mae ein hamrywiaeth o gyrsiau prentisiaeth bob amser yn boblogaidd, ac rydym hefyd yn cynnig ystod o gyrsiau addysg uwch mewn partneriaeth â’n prifysgolion lleol.

Mae ein meysydd pwnc yn amrywio o bynciau traddodiadol fel y gwyddorau, mathemateg, a’r dyniaethau i bynciau newydd sbon, mwy anhraddodiadol, na fyddai dysgwyr o reidrwydd wedi’u hastudio yn yr ysgol, fel seicoleg, troseddeg a thechnoleg ddigidol. Mae ein hystod o gyrsiau galwedigaethol yn helaeth, ac rydym yn darparu ym mhob maes y sectorau allweddol â blaenoriaeth. Ac o lefel mynediad, hyd at lefel tri a thu hwnt mewn pynciau fel peirianneg, iechyd a gofal cymdeithasol, gwallt a harddwch, a’r celfyddydau perfformio.

C: Beth os na chewch y graddau TGAU sydd eu hangen arnoch i astudio ymhellach?
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, byddwn yn sicrhau lle i bob dysgwr unigol, ni waeth beth yw ei gymwysterau. Dim ond y cam cyntaf yn eich gyrfa yw astudio gyda ni. Yn ogystal â rhoi cyngor ac arweiniad cadarn, o’r diwrnod cyntaf, byddwn yn sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cymorth wedi’i deilwra sydd ei angen arno i lwyddo.

C: Sut ddarpariaeth addysgu sydd gennych yn y Coleg?
Rydym yn enwog am ein haddysgu o ansawdd uchel ac wedi ennill llawer o wobrau am hyn. Mae gan lawer o’n staff gymwysterau hyd at lefel Meistr a PhD ac mae ganddynt hefyd brofiad ymarferol helaeth ym myd diwydiant. Felly, mae’r cyfuniad o wybodaeth am y byd go iawn, a chefnogaeth academia o’r radd flaenaf, yn rhoi profiad dysgu unigryw i’n dysgwyr.

C: Pa fath o gymorth bugeiliol ydych chi’n ei gynnig i ddysgwyr?
Nodwedd ragorol o'r Coleg yw ein cymorth helaeth i ddysgwyr. Mae gennym dros 80 o rolau penodol ar gyfer cymorth myfyrwyr i sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn cael eu cefnogi o ran eu cwrs, eu hanghenion personol a’u lles.

Mae hyfforddwyr cynnydd, hyfforddwyr bugeiliol a thiwtoriaid personol ar gael i bob dysgwr. Mae hyd yn oed cymorth a chefnogaeth ariannol ar gael, a bydd llawer o'n darlithwyr yn aml yn treulio amser gyda’n dysgwyr y tu allan i’r gwersi arferol i sicrhau eu bod ar y trywydd iawn i lwyddo. Mae hon yn nodwedd amlwg o’n harlwy yn y Coleg.

C: Pa gyfleoedd unigryw ydych chi’n eu cynnig i ddysgwyr?
Mae buddsoddi ym ‘mhrofiad y dysgwr’ yn hollbwysig. Boed hynny drwy ein buddsoddiad mewn lles a chymorth, neu drwy roi profiadau unigryw i ddysgwyr sy’n eu herio a’u hysbrydoli i gyrraedd eu potensial llawn.

Mae ein dysgwyr yn cael cyfleoedd di-ri i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau cenedlaethol a rhyngwladol, sy’n ymestyn eu setiau sgiliau y tu hwnt i’w pynciau. Er enghraifft, teithiodd ein tîm e-chwaraeon i Sweden yn ddiweddar ar gyfer Pencampwriaethau e-Chwaraeon DreamHack, a oedd yn brofiad rhyfeddol. Rydym hyd yn oed wedi cael tîm o ddysgwyr yn gwirfoddoli yng Chenia dros yr haf, i helpu i gefnogi ysgol gynradd rydym wedi’i noddi ers dros 20 mlynedd.

Rydym hefyd yn falch o’n Rhaglen Anrhydeddau CGA sy’n rhoi cymorth pwrpasol i ddysgwyr wrth iddynt wneud cais am le yn Rhydychen a Chaergrawnt. O sesiynau tiwtorial wythnosol, paratoi ar gyfer cyfweliad, cwrdd â chyn-fyfyrwyr, hyfforddiant academaidd a phrofion gallu, hyd at ymweliadau â Rhydychen a Chaergrawnt. Mae’r rhaglen hon wedi bod yn hynod lwyddiannus gyda thua 10 o ddysgwyr y Coleg yn symud ymlaen i Rydgrawnt bob blwyddyn.

C: Mae gan y sector addysg ei heriau ariannol, sut mae hyn yn effeithio ar Goleg Gŵyr Abertawe? 
Ni yw un o’r ychydig golegau yng Nghymru i gyrraedd ein targedau cofrestru yn gyson, ac mae hyn wedi helpu i greu sefyllfa ariannol wirioneddol sefydlog wrth symud ymlaen. Mae’r sefydlogrwydd hwn yn rhoi modd i ni barhau i fuddsoddi yn ein cyfalaf ystadau a chynnal a chadw. Mae hefyd yn caniatáu i ni ymrwymo i redeg ein holl gyrsiau – nid yw’n arfer gennym dorri unrhyw ddarpariaeth. Rydym hefyd yn falch o’r ffaith bod ein dysgwyr yn cael profiadau eithriadol y tu allan i’w gwersi arferol ar yr amserlen. Nid yn unig y mae ein dysgwyr yn gadael gyda chymhwyster, maen nhw’n gadael gyda sgiliau ychwanegol a chyfleoedd ychwanegol a fydd yn eu rhoi mewn sefyllfa gref iawn i gyflawni eu dyheadau gyrfa wrth symud ymlaen. 

C: Pa gysylltiadau sydd gennych â diwydiant? 
Mae gennym berthynas hynod gadarnhaol gyda’n cyflogwyr. Rydym yn cynnal nifer o Fyrddau Cynghori Cyflogwyr sy'n cynnwys arweinwyr diwydiant allweddol o bob maes sector â blaenoriaeth. Mae hyn yn rhoi modd i ni barhau i ateb anghenion cyflogwyr lleol, gan ail-lunio ein cyrsiau yn unol â’u hanghenion. Mae’n hanfodol bod ein dysgwyr yn cael eu haddysgu am y cyrsiau mwyaf perthnasol a chyfredol sy’n bodloni gofynion eu darpar gyflogwyr. Un partner diwydiant allweddol i ni yw Arena Abertawe. Mae ein partneriaeth strategol gyda’r lleoliad yn rhoi cyfle dysgu ymarferol gwirioneddol unigryw i’n dysgwyr celfyddydau gweledol mewn lleoliad ffyniannus. Bydd astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn agor drysau i’n rhwydwaith helaeth o gyflogwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am yr holl gyrsiau a gynigir yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, ewch i: https://www.gcs.ac.uk/cy/ymadawyr-ysgol