Mae bron 30 o fyfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lle yn rhai o golegau a phrifysgolion drama mwyaf nodedig yn y DU.
“Mae ein myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio wedi cael y deuddeg mis mwyaf rhagorol ac mae’r straeon hyn am ddilyniant llwyddiannus yn ffordd wych o orffen y flwyddyn academaidd,” dywedodd Rheolwr y Maes Dysgu, Lucy Hartnoll.
“Nid yn unig maen nhw wedi llwyfannu cynyrchiadau hynod lwyddiannus megis Disney’s Aladdin Jr, roedd ein Cwmni Actio yn ddigon ffodus i weithio gyda Richard Mylan a Simon Slater ar Generation O yn Theatr y Grand. Roedd y ddau yn rhan o’r cynhyrchiad Killology yn Theatr Royal Court a enillodd Gwobr Olivier. Roedd cael pobl broffesiynol cystal â nhw yn gweithio ochr yn ochr â’n myfyrwyr ar sioe fyw yn brofiad anhygoel i bawb.”
Y myfyrwyr sydd wedi cael cynigion yw:
Noa Radford; Tom Bytheway; Jacob Young; Kiera Ellis; Billy Rees; Ben Thomas; Cameron Webb; Cody Evans; Fraya Jones; Ffion Davies; Emily Jones; Cerys Sprake; Ashley Williams; Eve Harris; Georgia Whitehorn; Aisha Thomas; Carl Francisco; Joe Murphy; Eve Burridge; Laura Cooke; Lewis Francis; Rhys Horton; Charley South; Sophie Mclean; Jake Kingston; Jake Porter; Chloe Williams; ac Aaron Harvey.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau amser llawn mewn drama, y celfyddydau perfformio a chynhyrchu yn y theatr a digwyddiadau byw. Mae’r rhain yn cynnwys Lefel 2 a Lefel 3 y Celfyddydau Perfformio, Safon Uwch Drama, Safon Uwch Dawns, Lefel 3 Theatr Dechnegol a chwrs actio arbenigol ar Lefel 3.
O fis Medi 2018, mae’r Coleg hefyd yn cynnig cwrs Lefel 4 TystAU Theatr Gerdd mewn partneriaeth â Phrifysgol Swydd Gaerloyw.
Cyn symud ymlaen i borfeydd newydd, bydd y myfyrwyr hyn yn llwyfannu cynhyrchiad o West Side Story yn Theatr Taliesin ar 11 a 12 Mai – mae tocynnau ar werth nawr.
Myfyriwr |
Cynigion Cwrs |
Noa Radford |
Y Drindod Dewi Sant (BA Perfformio) Prifysgol Chichester (BA Theatr Gerdd) |
Tom Bytheway
|
Prifysgol Chichester (BA Anrh Cerddoriaeth a Theatr Gerdd) Y Drindod Dewi Sant (BA Perfformio) Ysgol Actio Guildford (Gradd Sylfaen mewn Theatr Gerdd) |
Jacob Young
|
Academi Urdang (BA Dawns Broffesiynol a Theatr Gerdd) Ysgoloriaeth Celfyddydau Theatr Laine (BA Anrh Theatr Gerdd) Coleg Bird (BA Anrh Theatr Gerdd) Ysgoloriaeth Dyfarniad Dawns a Drama |
Kiera Ellis
|
Prifysgol Chichester (BA Anrh Cerddoriaeth a Theatr Gerdd) Prifysgol Cumbria (BA Anrh Theatr Gerdd) |
Billy Rees
|
Prifysgol Swydd Gaerloyw (BA Theatr Gerdd) Coleg Blackpool and The Fylde (BA Theatr Gerdd) |
Ben Thomas
|
Arts Ed (BA Anrh Theatr Gerdd) Celfyddydau Theatr Laine (BA Anrh Theatr Gerdd) Ysgoloriaeth Academi Celfyddydau’r Theatr Mountview (BA Anrh Theatr Gerdd) |
Cameron Webb
|
Prifysgol Chichester (BA Theatr Gerdd) Academi Urdang (Theatr Gerdd) Academi Emil Dale (Theatr Gerdd) Celfyddydau Theatr Laine (BA Anrh Theatr Gerdd) |
Cody Evans |
Prifysgol De Cymru (BA Anrh Theatr a Drama) |
Fraya Jones |
Y Drindod Dewi Sant (BA Perfformio) |
Ffion Davies |
Academi Emil Dale (Gradd Sylfaen Theatr Gerdd) |
Emily Jones |
Arts Ed (Gradd Sylfaen Theatr Gerdd) Celfyddydau Theatr Laine (BA Anrh Theatr Gerdd) |
Cerys Sprake |
Prifysgol Chichester (BA Anrh Theatr Gerdd) |
Ashley Williams |
Prifysgol Chichester (BA Anrh Theatr Gerdd) |
Eve Harris |
Arts Ed (Gradd Sylfaen Actio) |
Georgia Whitehorn
|
Prifysgol Dinas Birmingham (BA Anrh Perfformio Cymhwysol Cymuned ac Addysg) Prifysgol De Cymru (BA Anrh Theatr a Drama) |
Aisha Thomas |
Y Drindod Dewi Sant (BA Perfformio) |
Carl Francisco |
Prifysgol Portsmouth (BA Anrh Drama a Pherfformio) |
Joe Murphy (Blwyddyn 1)
|
Prifysgol Chichester (BA Anrh Actio ar gyfer Ffilm) Prifysgol y Santes Fair Twickenham (BA Anrh Actio) |
Eve Burridge |
Royal Holloway, Prifysgol Llundain (Drama) |
Laura Cooke |
Prifysgol Llundain y Frenhines Fair (Drama) |
Lewis Francis |
Arts Ed (Gradd Sylfaen Actio) |
Rhys Horton |
Arts Ed (Actio) Sefydliad y Celfyddydau Perfformio Lerpwl (Theatr Cymhwysol a Drama yn y Gymuned) |
Charley South |
Sefydliad y Celfyddydau Perfformio Lerpwl (Theatr Cymhwysol a Drama yn y Gymuned) |
Sophie Mclean |
RADA (Cynhyrchu yn y Theatr) |
Jake Kingston |
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd (Cynhyrchu yn y Theatr) |
Jake Porter |
Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru (Cynhyrchu yn y Theatr) |
Chloe Williams |
Academi Celfyddydau’r Theatr Mountview (Cynhyrchu yn y Theatr) |
Aaron Harvey |
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd (Cynhyrchu yn y Theatr) |