Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal digwyddiad croeso arbennig â thema Gymraeg ar gyfer myfyrwyr.
Daeth staff a dysgwyr rhugl at ei gilydd ar gyfer Diwrnod Croeso 2024 a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau gyda’r nod o gael pawb i ddefnyddio eu Cymraeg a dod i adnabod ei gilydd.
Darparwyd yr adloniant gan yr artist bît-bocsio a lwpio byw arloesol, Mr Phormula, ac roedd y Doctor Cymraeg hefyd wrth law gan annog pawb i fanteisio ar unrhyw gyfle i ddefnyddio iaith y nefoedd.
Rhwng y sesiynau ioga, golff gwyllt a hwyl yn y bwth lluniau, cafwyd pizzas blasus (diolch i Dominos!) ac amrywiaeth o doesenni DuffNut danteithiol.
“Cawson ni ddiwrnod gwych! Roedd hi’n braf gweld pawb yn dod i adnabod ei gilydd, yn defnyddio eu Cymraeg ac yn cael hwyl,” meddai Rheolwr Dwyieithrwydd y Coleg, Helen Humphreys.
Mae’r Coleg yn cynnal ystod o ddigwyddiadau Cymraeg/dwyieithog drwy gydol y flwyddyn fel Dydd Santes Dwynwen, Wythnos Gymraeg, a Dydd Miwsig Cymru. Mae’n dathlu digwyddiadau eraill fel Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac Wythnos Enfys trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.
I wybod rhagor am y tîm Cymraeg yn y Coleg a sut y gallwch gymryd rhan, ewch i
https://www.gcs.ac.uk/cy/welsh-language-gower-college-swansea