Gwahoddir ein cymdogion yn y gymuned i alw heibio a dysgu mwy am ein cynlluniau ailddatblygu. Coleg Gŵyr Abertawe a Kier Group sy’n cynnal y digwyddiad.
9 Hydref
4-7pm
Campws Gorseinon (Costa)
Mae Coleg Gŵyr Abertawe a’i bartner adeiladu Kier yn falch o gyhoeddi prosiect ailddatblygu mawr ar
Gampws Gorseinon, sy’n nodi buddsoddiad sylweddol mewn dysgu ac addysgu ar gyfer ei fyfyrwyr.
Pan fydd wedi’i gwblhau yn 2026, bydd y prosiect yn cynnwys:
Cyntedd newydd: I wella estheteg a hygyrchedd, bydd hwn hefyd yn creu lle modern a chroesawgar i fyfyrwyr a staff.
Mwy o ystafelloedd dosbarth a lleoedd cymdeithasol i fyfyrwyr: I wella cynhwysiant a phrofiad y dysgwr yn
sylweddol, gan ddarparu lleoedd ysbrydoledig i fyfyrwyr ddysgu a chydweithredu.
Gwell system llif traffig: I leihau tagfeydd a gwella diogelwch ar y campws trwy ehangu mynediad i Heol
Belgrave.
Mae’r prosiect hwn yn fuddsoddiad gwerth £20.6 miliwn, a gefnogir gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
Llywodraeth Cymru.*
Mae’r ailddatblygiad yn tanlinellu ymrwymiad y Coleg i fuddsoddiadau sylweddol ar gyfer y dyfodol, gan wella
profiad y dysgwr a hyrwyddo twf cynaliadwy’r Coleg.
Y prosiect fydd cam nesaf y Coleg yn ei daith tuag at garbon sero net yn unol â safonau Llywodraeth Cymru.
Ein nod yw sicrhau cyfathrebu da gyda’n cymdogion. Byddwn yn ymgysylltu â’r gymuned leol yn ogystal â myfyrwyr y Coleg, gan weithio ar sawl menter gyffrous sy’n defnyddio’r prosiect fel cyfle i ddysgu. Er enghraifft, bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflogi i ddatblygu dyluniadau creadigol i’w harddangos ar hysbysfyrddau’r safle, a bydd hwn yn brosiect parhaus.
Bydd myfyrwyr sy’n astudio amgylchedd adeiledig yn cael eu hannog i ymweld â’r safle i gael dealltwriaeth o
waith adeiladu ac adolygu cynnydd a fydd yn cefnogi eu gwaith Coleg. Byddwn hefyd yn rhoi’r diweddaraf i’r gymuned leol am gyfleoedd swyddi a phrentisiaethau.
Prynhawn/noson agored
Bydd cyfle hefyd i gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad newydd, cwrdd â’n tîm a gofyn unrhyw gwestiynau yn ein prynhawn/noson agored ar ddydd Mercher 9 Hydref, i’w chynnal ar y campws (Costa) o 4pm tan 7pm.
Os nad ydych yn gyfarwydd â’r Campws, dilynwch yr arwyddion i Floc A / Derbynfa pan gyrhaeddwch, a bydd aelod o staff yn cwrdd â chi i'ch cyfeirio i Costa.
Nid oes angen cadw lle nac apwyntiad ar gyfer y digwyddiad hwn, galwch heibio ar amser sy’n addas i chi.
Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi.
Dewch i gwrdd â thîm Kier:
Ian Knight - Rheolwr y Prosiect
Neil Mogford - Rheolwr y Safle
Andrew Evans - Uwch Syrfëwr Meintiau
Amanda Swoboda - Rheolwr Buddion Cymunedol
Yn bresennol hefyd bydd:
Mark Jones - Prif Swyddog Gweithredol, Coleg Gŵyr Abertawe
Kelly Fountain - Pennaeth, Coleg Gŵyr Abertawe
*Nod y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yw trawsnewid profiad dysgu myfyrwyr, gan sicrhau eu bod yn cael eu haddysgu mewn ystafelloedd dosbarth sydd a’r technolegau a’r cyfleusterau gofynnol i allu cyflwyno Cwricwlwm i Gymru.