Mae wyneb gyfarwydd yn barod i ddychwelyd i Goleg Gŵyr Abertawe.
Mae Fiona Beresford, a astudiodd Safon Uwch Hanes, Saesneg a Mathemateg ar Gampws Gorseinon, wedi cael ei phenodi yn Gydlynydd Rhydgrawnt/HE+ newydd y Coleg.
Ar ôl cwblhau ei chyrsiau Safon Uwch yn 2009, aeth Fiona i Goleg Churchill, Caergrawnt lle enillodd radd Gyntaf mewn Hanes cyn dechrau gyrfa addysgu.
Wedi iddi gwblhau rhaglenni Teach First a Teaching Leaders, daeth Fiona yn Bennaeth Saesneg mewn ysgol yng Ngogledd-orllewin Lloegr ac, yn fwyaf diweddar, roedd yn Ymarferydd Arweiniol yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yng Nghaerdydd. Ochr yn ochr â'i gyrfa addysgu, roedd Fiona hefyd wedi cwblhau Gradd Meistr mewn Addysg ym Mhrifysgol Manceinion yn 2016.
Bydd Fiona yn ymuno â'r Coleg yn swyddogol ym mis Ionawr 2019, gan olynu Felicity Padley sydd wedi gweithio yn y Coleg er 1986.
“Dwi’n falch iawn bod Fiona yn ‘dod adref’ i Goleg Gŵyr Abertawe i ymgymryd â gwaith y Rhaglen Paratoi at Rydgrawnt,” meddai Felicity. “Bydd hi'n fodel rôl wych i'n myfyrwyr a – gan ei bod hi wedi mynd trwy’r broses ei hunan ac wedi bod yn eu hesgidiau nhw ei hunan, ddim yn hir yn ôl – bydd hi’n gallu darparu'r lefel gywir o gymorth a chyfarwyddyd y bydd ei hangen arnyn nhw. Mae Coleg Gŵyr Abertawe a Choleg Churchill, Caergrawnt yn llawn cyffro ynghylch yr apwyntiad hwn ac mae'n bleser mawr bod myfyriwr graddedig o Goleg Churchill yn mynd i lywio cyfeiriad Rhaglen AU+ Abertawe yn y dyfodol.”
Mae gan Goleg Churchill gyfrifoldeb penodol am raglenni allgymorth yn Ne Cymru fel rhan o Gynllun Cysylltiadau Ardal Prifysgol Caergrawnt. Mae'n gweithio'n agos gydag ysgolion a cholegau yn y rhanbarth i sicrhau bod myfyrwyr, ni waeth beth fo'u cefndir, yn cael yr wybodaeth a'r cyfarwyddyd gorau posibl am y Brifysgol a'i phroses dderbyn.
“Fel buddiolwr Rhaglen Paratoi at Rydgrawnt y Coleg, alla i ddim aros i barhau i ddatblygu'r cynllun sydd wedi cael effaith mor fawr ar gyfleoedd addysgol a llwyddiant pobl ifanc yn Abertawe,” meddai Fiona. “Bydd yn fenter mor gyffrous i fod yn rhan o'r gymuned academaidd gyfoethog hon.”
Bydd Fiona yn mynychu lansiad swyddogol Rhaglen HE+ Abertawe 2018 ar Gampws Gorseinon ar 25 Medi, lle bydd hi'n cael cyfle i gwrdd â rhyw 300 o bobl ifanc sydd wedi mynegi diddordeb yn y rhaglen eleni, gan gynnwys myfyrwyr Coleg a disgyblion Blwyddyn 12 o ysgolion uwchradd cyfagos.
DIWEDD
Coleg Gŵyr Abertawe, ar wahoddiad, ac ar y cyd â Phrifysgol Caergrawnt, yw’r prif sefydliad o fewn Consortiwm HE+ Abertawe, sy’n gweithio gyda’r saith ysgol wladol chweched dosbarth yn Ninas a Sir Abertawe.
Mae consortiwm HE+ Abertawe yn cael ei gefnogi gan Raglen Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru, sef cyfres o hybiau rhanbarthol sy'n ceisio helpu myfyrwyr mwyaf galluog Blwyddyn 12 Cymru i gyflawni eu potensial academaidd.
Sefydlwyd yn 2010, mae rhaglen HE+ Prifysgol Caergrawnt yn annog ac yn paratoi myfyrwyr sy’n gwneud yn eithriadol o dda’n academaidd o ysgolion gwladol i wneud ceisiadau cystadleuol i’r prifysgolion gorau. Mae’r rhaglen yn gweld y Brifysgol a’i Cholegau yn gweithio gyda grwpiau o ysgolion gwladol a cholegau mewn pymtheg rhanbarth i ennyn diddordeb eu myfyrwyr gorau mewn rhaglen gynaledig dros flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau ymestyn academaidd, dosbarthiadau meistr pynciol, sesiynau gwybodaeth ac arweiniad, ac ymweliadau â’r Brifysgol.