Roedd criw o gyn-ddisgyblion Llwyn y Bryn yn hel atgofion yn ddiweddar pan ddychwelon nhw am daith dywys arbennig.
Roedd y ffrindiau, dan arweiniad Liz Mundee, yn ddisgyblion yn Ysgol Ramadeg Llwyn y Bryn rhwng 1965 a 1972.
Mae’r hen adeilad hardd bellach yn rhan o Goleg Gŵyr Abertawe ac mae’n gartref i grŵp amrywiol o fyfyrwyr sy’n astudio ystod o bynciau gan gynnwys celf a dylunio, ffotograffiaeth, cerddoriaeth ac ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill).
Fe wnaeth y Rheolwr Maes Dysgu Kieran Keogh gwrdd â’r grŵp a mynd â nhw o gwmpas y lle. Roeddent wedi dod â detholiad o luniau gyda nhw a dynnwyd pan oeddent yn ddisgyblion yno er mwyn iddynt allu cymharu’r ‘ddoe a heddiw’.
“Cawson ni ymweliad gwych,” meddai Liz. “Roedd Kieran mor barod i helpu, ac roedd yn ddiddorol iawn clywed beth sy’n digwydd yn y Coleg heddiw.
“Dechreuais i yn Llwyn y Bryn ym mis Medi 1965. Roedd yn rhaid i mi ddal dau fws i gyrraedd yno oedd yn frawychus iawn i mi. Roedd yr ysgol yn edrych mor enfawr pan gyrhaeddais i gyntaf. Roedd cynifer o goridorau ac ystafelloedd dosbarth. Roedd disgyblion y chweched dosbarth yn edrych mor aeddfed a phwysig, roeddwn i’n nerfus iawn ohonyn nhw.
“Fe wnes i fwynhau chwarae pêl-rwyd, rownderi, canu yn y corau a chymryd rhan yn yr Eisteddfodau. Roeddwn i’n gyffrous i gael fy newis i ddysgu ac arwain Côr y Tŷ pan oeddwn i yn y chweched dosbarth.
“Astudiais i fathemateg, Saesneg llenyddiaeth ac iaith, Ffrangeg, Cymraeg, hanes, daearyddiaeth, cerddoriaeth a gwyddoniaeth gyffredinol. Astudiais i Safon Uwch Cerddoriaeth a Safon Uwch Saesneg hefyd.
“Dwi wedi cael gyrfa addysgu lwyddiannus iawn a dwi’n ddiolchgar iawn i Ysgol Llwyn y Bryn am y safonau uchel a osodwyd. Ar adegau roedd y rhain yn frawychus i mi oherwydd dwi’n swil iawn ond wrth edrych yn ôl, dwi’n gwybod eu bod nhw wedi fy helpu i greu’r fenyw gref a ddatblygais i fod.
“Mae atgofion o fy amser yn Llwyn y Bryn yn cynnwys taith hyfryd i Norwy yn y bedwaredd flwyddyn, dim rhedeg yn y coridorau, bob amser yn gwisgo berets tu allan i’r ysgol, grisiau’r chweched dosbarth, y feranda bren fendigedig yn edrych dros y cyrtiau pêl-rwyd, y ‘cae criced’ oedd yn llethr serth iawn lle roedden ni’n cael eistedd amser egwyl, gwasanaethau ysgol, emyn yr ysgol ‘Now thank we all our God’, a gynau du yn hedfan y tu ôl i’r athrawon wrth iddyn nhw frysio i lawr y coridorau!
“Roeddwn i’n gyffrous iawn i ddod yn ôl i’r ysgol ac roedd yn wych cwrdd â rhai o ferched fy mlwyddyn. Roedd yn hyfryd gweld ein hen ysgol yn dal i wasanaethu’r gymuned fel coleg ac mae’r cyrsiau a gynigir yn ddiddorol ac amrywiol iawn.”
Rhagor o atgofion o Lwyn y Bryn:
Iris Duffy
“Mwyheuais i ddod yn ôl i Lwyn y Bryn a gweld beth oedd wedi newid ers i mi adael.
“Pan oeddwn i yn yr ysgol, dwi’n cofio i un o’r athrawon cerddoriaeth wneud i mi ganu drosodd a throsodd 'If music be the food of love, sing on…' Doeddwn i byth yn ynganu’r gair ‘music’ i’w boddhad!
Fel arfer cawson ni arholiadau unwaith y flwyddyn ac roedden ni’n arfer mynd â masgots gyda ni. Roedd gen i ‘ddoli hyll’. Dwi hefyd yn cofio garddwest ar y cae gwaelod a gwahodd bechgyn i ddod!”
Eirwen Richards
“Yr unig beth dwi’n ei gofio yw mai fi oedd yr ieuengaf yn ein blwyddyn ac felly yr ieuengaf yn yr ysgol. Yn ystod y diwrnod gwobrwyo cyntaf yn Neuadd Brangwyn ces i’m llusgo allan o’m sedd a’m cymryd i un ochr o’r llwyfan a derbyn tusw o flodau i’w gyflwyno i’r faeres. Roedd hyn tua Hydref 1965.”
Jackie Allen
“Rhywbeth dwi’n ei gofio’n annwyl yw gwrando ar ddarn o gerddoriaeth glasurol yn ystod gwasnaeth ar fore Iau.”
Marilyn Tozer
“Dwi’n ein cofion ni yn gwisgo berets pan oedden ni y tu allan! Dwi’n cofio pethau fel monitoriaid drws – merched a fyddai’n agor y drws i’r athro neu’r athrawes sy’n gadael yr ystafell ddosbarth. Alla i ddim dychmygu hynny heddiw!
“Roedd mynd yn ôl yn anhygoel! Roedd yn teimlo yn fwy tebyg i’r ysgol nag yr oeddwn i’n meddwl.”
Yvonne Smith
“Roedd disgwyl i ni gadw at lawer o reolau a thraddodiadau ond roedd hyn yn golygu bod pawb yn gwybod beth oedd yn ddisgwyliedig ohonyn nhw. Roedd arwyddair yr ysgol - nid yw’r daith i anrhydedd uchel yn gorwedd mewn ffyrdd llyfn - yn tynnu sylw at hyn.
“Wrth i chi symud ymlaen drwy’r ysgol roedd yna drobwyntiau arbennig fel disgyblion chweched dosbarth yn cael defnyddio mynedfa’r staff, grisiau’r chweched dosbarth o flaen ystafell y brifathrawes a chael mynediad i’r lawnt.
“Roedd llawer o aelodau staff wedi bod yn yr ysgol ers gadael y brifysgol. Gadawodd fy modryb yn 1943 a chofio am athrawon ifanc fel Miss Butler (Cymraeg) Miss Phillips (Ffrangeg), Miss Nock (Bioleg) a Miss Solomon, ysgrifenyddes yr ysgol. Roedd y rhan fwyaf o’r staff yn arfer ysgubo i mewn i’r ystafell ddosbarth yn eu gynau du gan greu tawelwch a pharch ar unwaith, ac roedden ni’n sefyll nes cael caniatâd i eistedd.
“Roedd yn wych mynd yn ôl i’r ysgol. Wrth gwrs, mae pethau wedi newid gyda dulliau addysgu modern a’r angen i ddarparu mynediad i’r holl fyfyrwyr drwy’r hen adeilad ond roedd yn dal yn bosibl gweld siâp fy hen ysgol a daeth cymaint o atgofion da yn ôl. Roedd hefyd yn bleser gweld gwaith celf hardd myfyrwyr heddiw.”
Christine Evans
“Astudiais i Fioleg, Cemeg, Ffiseg a Lladin, ac roedd pob un o gymorth i mi yn fy ngyrfa nyrsio. Gwych oedd gweld yr hen adeilad.”
Rita Evans
“Roeddwn i’n arfer mwynhau’r gwasnaeth yn yr ysgol, yn enwedig canu yr emynau ac ymuno â’r côr. Roeddwn i’n mwynhau cyflwyno pethau ar gyfer cystadleuaeth gelf yr Eisteddfod ac un flwyddyn, des i’n ail am lun a wnes i o fy nith. Wnes i doriad leino hefyd a gafodd ei ddefnyddio ar glawr cylchgrawn yr ysgol.
“Mwynheuais i gwrdd â’r cyn-ddisgyblion eraill eto yn fawr iawn. Peth braf oedd gallu cofio rhai ohonyn nhw o’r ysgol. Roedd hi hefyd yn hyfryd gweld sut mae’r ysgol wedi newid yn ystod yr holl flynyddoedd hynny, ond roedd hi’n wych gweld bod cymaint wedi aros yr un fath hefyd. Mae gerddi a thiroedd yr ysgol yn dal i fod yn syfrdanol. Roedd yn rhyfedd mynd i mewn i ystafell y Brifathrawes a gweld bod y grisiau pren hyfryd yn dal i fod yno.”
Allyson Evans
“Y peth dwi’n ei gofio fwyaf am yr ysgol oedd y chwaraeon – fel rownderi, pêl-rwyd ac roeddwn i’n dwlu ar hoci, a chwaraeais i yn nhimau’r ysgol gan ymweld ag ysgolion yn yr ardal ar gyfer gemau.
Dwi’n cofio’r athrawon eithaf ecsentrig a’r rheolau llym fel gwisgo eich beret o’r cartref i’r ysgol ac o’r ysgol i’r cartref heb feiddio ei dynnu oddi arnoch, yn enwedig yn y misoedd cyntaf, yn ystod eich taith i’r ysgol ac yn ôl!
Roedd dychwelyd i’r lle ychydig wythnosau yn ôl wedi dod ag atgofion yn ôl. Roedd naw ohonon ni ac roeddwn i wedi bod yn gyfeillgar gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw ac felly roedd hwnna yn hyfryd ac, wrth edrych yn ofalus, roedd y merched ifanc hynny i gyd yn dal i fod yno.”